Taith Llyffant y Twyni, Sir Fflint
Dewch wyneb yn wyneb â natur trwy ddilyn galwadau...
Cerddwch ar hyd y cwr anghysbell hwn o Gymru i ryfeddu at yr olygfa arfordirol fawreddog
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymlwybro o amgylch y clogwyni, gyda golygfeydd godidog o Ynysoedd Sgomer, Sgogwm a Gateholm. Mae'r ynysoedd, a enwyd gan oresgynwyr Llychlynnaidd, yn enwog am eu trefedigaeth enfawr o balod. Mae'r adar carismatig hyn yn un o'r trigolion lleol. Gallwch hefyd weld brain coesgoch sy'n nythu, rafftiau o adar drycin, bwncathod, cigfrain, hebogiaid tramor a llu o adar eraill yr arfordir.
Ar ddiwedd Awst a dechrau Medi, cadwch lygad allan am forloi llwyd gyda'u cenau wrth ymyl y dwr. Wrth i chi ddilyn llwybr y clogwyn, cewch eich dallu gan arddangosfeydd lliwgar o flodau gwyllt. Byddwch yn gweld y llwylys, briallu ac eirlysiau yn gynnar yn y flwyddyn, a cglychau'r gog yn niwedd y gwanwyn a blodau neidr, bysedd y cwn a chlustog Fair yn yr haf.
Ym mhen gorllewinol Penrhyn Marloes mae pentir garw, bron yn debyg i ynys. Stopiwch yng ngorsaf Sefydliad Cenedlaethol Gwylio’r Arfordir (SCGA) gorsaf Wooltack Point i weld golygfeydd helaeth ar draws Bae Sain Ffraid tuag at Ynys Dewi a Phenrhyn Dewi. Mae'r pentir hefyd yn gartref i Barc Ceirw. Nid yw’r clostir muriog hwn, a adeiladwyd yn y 18fed ganrif, erioed wedi cadw ceirw ac erbyn hyn mae merlod mynydd Cymreig a gwartheg duon Cymreig yn pori yno. Mae tripiau cychod yn rhedeg o Martin’s Haven i Sgomer a Sgogwm.
Lawrlwythwch taflen cerdded Traeth Marloes i Martin’s Haven (PDF) a map taith cerdded (JPEG).