Taith Llyffant y Twyni, Sir Fflint
Dewch wyneb yn wyneb â natur trwy ddilyn galwadau...
Rhyfeddwch at frigau serth a garw'r clogwyni ar y rhan hon o’r arfordir treftadaeth
Dysgwch fwy am fywyd gwyllt, hanes a daeareg yr ardal drwy alw i mewn i Ganolfan Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn Nwnrhefn ar ddechrau'r daith gerdded, sy'n rhoi trosolwg ardderchog o Arfordir Treftadaeth Morgannwg sy'n 23km, ac yn rhedeg rhwng Porthcawl ac Aberddawan. Mae Bae Dwnrhefn yn boblogaidd gyda syrffwyr a daearegwyr. Cyn i chi ddechrau, archwiliwch y pyllau creigiog a chwilotwch y traeth am ewinedd y cythraul, ffosil wystrys diflanedig o'r cyfnod Triasig.
Oddi yma, mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd tua'r de-ddwyrain heibio gardd furiog Castell hirgoll Dwnrhefn gan ddringo ar glogwyni agored. Mae golygfeydd ysblennydd drwy gydol y daith gerdded tuag at oleudy Trwyn yr As ac ar draws Môr Hafren i arfordir Gogledd Dyfnaint, tra bod cipolwg i lawr yn datgelu carped cymhleth o ffurfiannau creigiau patrymog ar ymyl y dwr.
Mae'r daith gerdded yn parhau ar hyd llwyfandir glaswelltog o galchfaen am lawer o'i phellter, gydag ambell i ran serth lle mae nentydd wedi torri dyffrynnoedd dwfn i'r llwyfandir wrth iddynt fynd i lawr i'r traeth. Gwrandewch am yr ehedyddion a chadwch eich llygaid ar agor am frain coesgoch. Yn Nhrwyn yr As gallwch gael golwg dda ar Oleudy Trwyn yr As, goleudy 200 oed sy’n dal i weithio sydd â chanolfan ymwelwyr ei hun.
Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru, Tricia Cottnam:
"Nid oes prinder golygfeydd bendigedig ar hyd y rhan hon o Arfordir Treftadaeth Morgannwg, sy'n ymestyn mor bell ag arfordir Gogledd Dyfnaint. Mae hefyd yn ffefryn gan ddaearegwyr lle mae gwely'r môr yn dangos ei nodweddion a ffosilau. Mae’n werth ymweld â goleudy Trwyn yr As, gan ei fod yn oleudy sydd dal yn gweithio".