Datganiad Hygyrchedd
Rydym ni'n ymrwymo i sicrhau bod ein gwefan ni yn hygyrch i bob aelod o gymdeithas
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://www.walescoastpath.gov.uk/?lang=cy.
Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech fod yn gallu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo mewn hyd at 300% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod y testun ar y wefan mor syml â phosib i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar sicrhau bod eich dyfais yn hawdd ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Efallai na fydd strwythur y pennawd ar rai tudalennau yn rhesymegol bob amser
- Gall rhywfaint o gynnwys fynd yn llai neu'n anodd ei ddarllen wrth chwyddo cynnwys
- Efallai na fydd gan rai delweddau mewn dogfennau PDF neu Word ddewisiadau testun amgen
- Gallai mapiau rhyngweithiol fod yn anodd eu llywio neu'n anhygyrch i ddefnyddwyr rhaglen darllen sgrin
Adborth a manylion cyswllt
Os oes arnoch angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat arall fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei deall, recordiad sain neu Braille, cysylltwch drwy un o’r dulliau canlynol:
- ein ffonio ar 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm)
- anfon e-bost at ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
- ysgrifennu atom yn:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Canolfan Gofal Cwsmeriaid
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen pum diwrnod gwaith.
Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym yn awyddus bob amser i wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen, hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, anfonwch e-bost at Dîm Digidol CNC digidol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Gweithdrefn gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS)
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae CNC yn ymrwymedig i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (WCAG) 2.1, yn sgil yr achosion o ddiffyg cydymffurfio ac esemptiadau a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Mae logo Cyfoeth Naturiol Cymru yn y troedyn, yn ogystal â'r ddelwedd perygl yn y map rhyngweithiol, yn cynnwys testun amgen gwag pan ddisgwyliwyd testun amgen disgrifiadol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 yn WCAG 2.1 (cynnwys di-destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.
Ar y dudalen gynnwys, nid oes testun hygyrch i gyd-fynd â fideo sydd wedi'i fewnosod er mwyn ei roi yn ei gyd-destun i ddefnyddwyr rhaglen darllen sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 yn WCAG 2.1 (cynnwys di-destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.
Mae rhai dogfennau PDF a Word yn cynnwys delweddau neu graffigwaith nad oes testun amgen ar eu cyfer. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 yn WCAG 2.1 (cynnwys di-destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.
Mae diffyg capsiynau cysylltiedig ar gyfer y cynnwys fideo ar y dudalen gynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.2.2 yn WCAG 2.1 (capsiynau (wedi'u recordio'n flaenorol)). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.
Nid oes gan y cynnwys fideo ar y dudalen gynnwys drawsgrifiad testun na thrac sain disgrifiadol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.2.3 yn WCAG 2.1 (disgrifiad sain neu gyfryngau amgen (wedi'u recordio'n flaenorol)). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.
Nid oes gan y cynnwys fideo ar y dudalen gynnwys drac sain disgrifiadol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.2.5 yn WCAG 2.1 (sain ddisgrifiad (wedi'i recordio’n flaenorol)). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.
Nid yw rhai tablau a gaiff eu defnyddio i osod cynnwys wedi'u marcio â “role=presentation”, a gallent gyhoeddi rhesi tabl a phenynnau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 yn WCAG 2.1 (gwybodaeth a chydberthnasau). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.
Mae diffyg cyferbyniad rhwng y dudalen gefndir a'r testun dalfan yn y maes mewnbwn ‘Dod o hyd i le’ ar y dudalen ‘Cynllunio Eich Ymweliad’, a thestun y dyddiad yn y calendr ar y dudalen ‘Digwyddiadau’. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 yn WCAG 2.1 (cyferbyniad (lleiafswm)). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.
Wrth chwyddo cynnwys testun yn unig i 200%, bydd rhywfaint o’r cynnwys yn cael ei gwtogi, gan gynnwys y testun dalfan yn y maes chwilio, yn ogystal â'r testun yn y ddolen cardiau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.4 yn WCAG 2.1 (newid maint testun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.
Mae diffyg cyferbyniad rhwng yr eicon cau yn y ddewislen llywio symudol a'r cefndir, sydd â chyferbyniad o 1.5:1. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.11 yn WCAG 2.1 (cyferbyniad di-destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.
Wrth gymhwyso CSS personol i'r dudalen, gall achosi i rywfaint o'r cynnwys orgyffwrdd a bod â diffyg cyferbyniad â'r cefndir, sy'n gwneud rhywfaint o'r testun yn anodd ei ddarllen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.11 yn WCAG 2.1 (cyferbyniad di-destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.
Ar y dudalen ‘Digwyddiadau’, nid yw'r defnyddiwr yn gallu tabio na defnyddio'r saeth i fynd i lawr at ddyddiadau penodol yn y calendr, sy'n gwneud rhai swyddogaethau'n anhygyrch. Nid yw chwaith yn bosib llusgo a gollwng yn y mapiau trwy ddefnyddio bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.1.1 yn WCAG 2.1 (bysellfwrdd). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.
Ni all y rhaglen darllen sgrin iOS VoiceOver ryngweithio â'r botymau cyfryngau cymdeithasol yn y troedyn. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.1.1 yn WCAG 2.1 (bysellfwrdd). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.
Ar draws rhai tudalennau, nid yw trefn ffocws y cynnwys yn rhesymegol bob amser. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.3 yn WCAG 2.1 (trefn ffocws). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.
Gall defnyddwyr rhaglen darllen sgrin symudol sweipio trwy gynnwys y ddewislen llywio pan fydd ar gau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.3 yn WCAG 2.1 (trefn ffocws). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.
Wrth dabio'r map gan ddefnyddio iOS VoiceOver, nid yw'r defnyddiwr yn canolbwyntio ar gynnwys newydd a gaiff ei arddangos wrth agor dewislenni dethol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.3 yn WCAG 2.1 (trefn ffocws). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.
Gall rhai tudalennau gynnwys gwallau dilysu HTML, a allai effeithio ar y ffordd y mae rhai rhaglenni darllen sgrin yn cyhoeddi'r cynnwys ar y dudalen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.1 yn WCAG 2.1 (parsio). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.
Mae'r carwsél yn yr hafan yn cynnwys rhanbarth byw ARIA, sy'n achosi i unrhyw ddiweddariadau gael eu cyhoeddi i ddefnyddwyr rhaglen darllen sgrin wrth iddo gylchdroi. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 yn WCAG 2.1 (enw, rôl, gwerth). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.
Wrth lywio'r map rhyngweithiol gan ddefnyddio TalkBack Android, bydd rhai elfennau, pan fyddant yn cael eu ffocysu, yn cyhoeddi graffigwaith sawl gwaith. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 yn WCAG 2.1 (enw, rôl, gwerth), Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn Ionawr 2025.
Baich anghymesur
[Sylwch: yn yr is-adran hon, rhestrwch y problemau hygyrchedd yr ydych yn honni i fod yn faich anghymesur i'w trwsio.
Cofiwch nad yw rhywbeth a ystyrir yn faich anghymesur nawr o reidrwydd yn mynd i fod yn faich anghymesur am byth. Os bydd yr amgylchiadau'n newid, gall eich gallu i hawlio baich anghymesur newid hefyd.]
Llywio a chyrchu gwybodaeth
Nid oes unrhyw ffordd o hepgor y cynnwys ailadroddus ym mhennyn y dudalen (er enghraifft, opsiwn ‘neidio i'r prif gynnwys’).
Nid yw bob amser yn bosibl newid cyfeiriadedd y ddyfais o fod yn llorweddol i fertigol heb ei gwneud yn anoddach i weld y cynnwys.
Nid yw'n bosibl i ddefnyddwyr newid maint testun heb i rywfaint o'r cynnwys orgyffwrdd.
Offer a thrafodion rhyngweithiol
Mae rhai o'n ffurflenni rhyngweithiol yn anodd eu llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd. Er enghraifft, oherwydd bod rhai rheolaethau ffurflen â thag ‘label’ ar goll.
Caiff ein ffurflenni eu hadeiladu a'u lletya trwy feddalwedd trydydd parti a chânt eu gwneud i edrych fel ein gwefan.
Rydym wedi asesu cost trwsio'r problemau o ran llywio a chyrchu gwybodaeth, a chydag offer a thrafodion rhyngweithiol. Credwn y byddai gwneud hynny nawr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn gwneud asesiad arall pan fydd y contract cyflenwr ar fin cael ei adnewyddu, sydd yn debygol o fod ym mis Ionawr 2025.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
[Sylwch: yn yr is-adran hon, rhestrwch broblemau hygyrchedd sydd y tu allan i gwmpas y rheoliadau hygyrchedd.]
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF gyda gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael gafael ar ein gwasanaethau, a ffurflenni wedi'u cyhoeddi ar ffurf dogfennau Word. Erbyn Medi 2020, rydym yn bwriadu naill ai trwsio'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio [enghraifft o ddogfen nad yw'n hanfodol].
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Fideo byw
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i esemptio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd
Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym wrthi’n chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd ein gwefan. Dyma rai o’r agweddau yr ydym yn canolbwyntio arnynt dros y 12 mis nesaf i sicrhau bod ein gwefan yn fwy hygyrch.
- Parhau i sicrhau bod dogfennau sy’n cael eu defnyddio ar gael mewn fformat hygyrch
- Parhau i adolygu rhannau o’r wefan a’u hailysgrifennu er mwyn sicrhau bod yr iaith yn glir
- Mireinio a thrwsio'r problemau sy'n weddill o ran datblygu’r wefan gyda'n templedi
Llunio’r datganiad hygyrchedd hwn
Lluniwyd y datganiad hwn ar 9 Mehefin 2023. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 9 Mehefin 2023. Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 8 Mehefin 2023. Cynhaliwyd y prawf gan Zoonou.
Defnyddiodd y profwyr sampl gynrychioliadol o'r gwefannau fel y'i diffinnir gan Fethodoleg Gwerthuso Cydymffurfedd Hygyrchedd Gwefannau) (WCAG-EM).