Gwyriadau dros dro

Rhestr ddiweddar o wyriadau dros dro cyfredol ar y llwybr

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

O bryd i’w gilydd mae angen dargyfeirio rhannau o Lwybr Arfordir Cymru dros dro – yn bennaf oherwydd rhesymau diogelwch y cyhoedd ar ôl tywydd garw, tirlithriadau neu waith adeiladu. Fodd bynnag, ein harwyddair yw, 'nid ydym byth ar gau' a dylai llwybr arall fod ar gael bob amser. Oes rhywbeth o’i le ar Lwybr Arfordir Cymru, gadwech i ni gwybod ar ein ffurflen Rhoi gwybod ar fater ymwneud a'r Llwybr

Gwynedd

5 Gorffennaf 2022 - Mae Pont yr Aber rhwng castell Caernarfon a pharc chwarae Caernarfon, sy’n groesfan dros Afon Seiont, ar gau o bryd i’w gilydd. Pan fydd hyn yn digwydd, dilynwch y llwybr amgen ar y map. Gallwch roi gwybod i Gyngor Gwynedd bod y bont ar gau

Ynys Môn 

16 Mehefin 2021 - Moelfre: Cerddwyr wedi'u cyfeirio trwy Ystâd Nant Bychan ac ar hyd ffordd yr A5108 i mewn i Moelfre.

Castell-nedd Port Talbot

12 Mai 2023 The Quays - Mae'r llwybr ar gau er diogelwch, oherwydd bod llyncdyllau dwfn yn parhau i ffurfio ar hyd y llwybr tarmac wrth ymyl Afon Nedd. Sylwch fod glan yr afon ar y gogledd yn creu rhwystr ar y llwybr, yn y cyfeirnod grid SS731931. Dilynwch yr arwyddion dargyfeirio ar y map a ddarperir yn y tabl isod.

20 Rhagfyr 2024. Mae'r llwybr ar gau ym Morfa Margam (y llwybr ar y tir isel) oherwydd bod y llwybrau pren wedi'u difrodi. Bydd angen i chi ddilyn y llwybr amgen swyddogol, sef y llwybr ar y tir uchel sydd ag arwyddbyst coch ac nid y rhai glas arferol. Mae'r llwybr ar y tir uchel uwchben yr M4 ac yn dilyn cyfuchliniau'r bryn cyn mynd i goedwig Parc Margam (tua 10 milltir neu 16km).

Abertawe

1 Tachwedd 2024. Coedwig Cwmy Ivy a'r morglawdd

Yng nghoedwig Cwm Ivy, mae coed heintiedig yn cael eu torri, felly oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch mae'n rhaid dargyfeirio’r rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru. Mae dau lwybr amgen y gellir eu dilyn sy’n defnyddio isffyrdd a llwybrau troed, yn dibynnu ar y llanw.

Pan fo’r llanw ar drai, o'r gorllewin gallwch adael y ffordd a dilyn llwybr troed LM1A ac ymuno â CH17, yna ymuno â llwybr troed CH8. Pan fo’r llanw’n uchel, o'r gorllewin, dilynwch lwybr y penllanw cyfredol ar hyd y ffordd i Cheriton ac ymunwch â llwybr troed CH8 i barhau â'ch taith. Gwnewch y gwrthwyneb os byddwch yn dod o’r dwyrain.

Mae llwybr LM1B wedi bod ar gau oherwydd difrod i’r morglawdd ers 2015. Mae'r map dargyfeirio ar gael yn y tabl Gwyriadau Dros Dro. Mae’n werth gwirio amseroedd y llanw cyn i chi gynllunio eich taith.

Tabl o Gwyriadau Cyfredol

Awdurdod Lleol Lleoliad Rheswm Map Gwyriad Dyddiad
Abertawe Bae Limeslade (o 24 Mis Medi 2024) Iechyd a Diolgelwch cy tan 20-03-2025
Abertawe Rotherslade i Rams Tor Iechyd a Diogelwch cy tan 21-03-2025
Abertawe Cwm Ivy: coedwig a morglawdd Iechyd a Diolgelwch cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Caerdydd Canolog Caerdydd Iechyd a Diolgelwch cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Casnewydd Y Bont Gludo Amddiffyn rhag llifogydd cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Castell-nedd Port Talbot The Quays Llyncdyllau cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Castell-nedd Port Talbot Margam moors (llwybr tir isel), llwybr rhif 93 a 93A wedi cau Iechyd a Diolgelwch (llwybr pren wedi'i ddifrodi) cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Conwy Bae Cinmel (St Asaph Avenue) Amddiffyn rhag llifogydd cy tan 31-01-2025
Ddinbych Rhyl glan y môr Gwaith Amddiffyn Arfordirol cy tan 30-09-2025
Gaerfyrddin Talacharn llwybr cyhoeddus 22/15 (wedi dechrau 4 Mis Medi 2024) Gwaith gan Dŵr Cymru cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Gwynedd Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog Difrod storm cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Morgannwg Llanilltud Fawr llwybr troed rhif 3 a 58 Cliff fall cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Sir Benfro Amroth Tirlithriad cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Sir Benfro St Dogmaels y tu ôl i Stryd y Peilot o 1af Mis Hydref 2024 Gwaith archwillo tir cy tan 31-10-2024
Sir Benfro Coppet Hall i Wisemans Bridge Tirlithriad cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Ynys Mon Moelfre Ansefydlogrwydd tir cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Ynys Mon St Cybi, Caergybi Adnewyddu'r eglwys cy tan 30-04-2025
Ynys Mon Cemaes Tirlithriad cy hyd nes y ceir rhybudd pellach

Diweddarwyd ddiwethaf 24 Ion 2025