Teithiau cerdded cylchol Abaty Llandudoch, Sir Benfro
aith gerdded fywiog trwy arfordir a chefn gwlad...
Henebion Neolithig, traethau caregog a chyrchfan mawreddog y pererinion
Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr
Ychydig o dan 1 filltir neu 1km. Yr eglwys, yr heneb (siambr gladdu) a'r traeth o fewn y pellter hwn.
Dechreuwch trwy ymweld ag eglwys hardd Sant Beuno, cyn mynd i lawr y llwybr wrth ochr y fynwent (wedi'i nodi fel taith gerdded 'Cymunedau'r Arfordir') a chroesi ffordd yr A499. Ewch trwy'r giât a dilynwch y llwybr troed i lawr tuag at lôn fach, cyn troi i'r chwith wrth y cyffordd i ymweld â Siambr Gladdu Bachwen.
Yn dyddio'n ôl i'r cyfnod Neolithig cynnar, mae'n garnedd hir drawiadol â siambr, gyda maen capan enfawr yn mesur 9 troedfedd neu 2.75 metr. Wrth ichi agosáu at y siambr, cewch olygfeydd dramatig o fynyddoedd Yr Eifl ymhellach ar hyd arfordir gogleddol Pen Llŷn.
Nesaf, dychwelwch i'r cyffordd a dilynwch y llwybr sy'n arwain tuag at y môr. Bydd dringo i lawr rhai grisiau yn mynd â chi i'r lan greigiog lle gallwch ymgolli yng ngolygfeydd y môr (mae'r machlud haul yma'n arbennig o ysblennydd), nofio yn y môr neu roi cynnig ar bentyrru cerrig. Pan fyddwch chi'n barod, ewch yn ôl i'r pentref.
Wedi'i eni ar ddiwedd y chweched ganrif, roedd Beuno’n un o ddisgynyddion tywysogion Powys ac yn un o fynachod Cristnogol cynnar mwyaf enwog Gogledd Cymru.
Yn 616 OC, dewisodd Clynnog Fawr fel y lleoliad ar gyfer 'clas' - cyfuniad o fynachlog a choleg wedi'i neilltuo ar gyfer gweddïo, dysgeidiaeth, gweinidogaeth a chenhadaeth.
Y peth cyntaf y byddwch chi'n sylwi arno am yr eglwys sy'n sefyll yma heddiw (a adeiladwyd yn y bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg) yw ei maint. Yn anarferol o fawr i eglwys mewn pentref mor fach, mae ei maint a'i murfylchau nodedig tebyg i rai castell yn adlewyrchu arwyddocâd y safle.
Yn ogystal â bod yn fan gorffwys pwysig i bererinion ar eu ffordd i Ynys Enlli, roedd yn gyrchfan pererindod ynddo'i hun - dywedwyd bod gan y ffynnon sanctaidd gyfagos bwerau iachaol, tra gallai pobl gael eu hiacháu trwy dreulio noson ar fedd Sant Beuno.
Pan fydd yr eglwys ar agor, peidiwch â cholli'r cyfle i ymweld â Chapel Sant Beuno. Gallwch ei gyrraedd trwy dramwyfa atmosfferig o'r prif adeilad, a chredir ei fod yn sefyll ar safle'r eglwys wreiddiol a bedd Beuno.
Cadwch lygad hefyd am Gist Sant Beuno, blwch pren hynafol wedi'i gerfio o un darn o bren onnen lle gallai pererinion adael arian i waredu eu pechodau.
Darganfyddwch fwy am eglwys Sant Beuno
Mae Rhys Gwyn Roberts, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru yn dweud "Mae'r daith fer hon yn cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar y gorffennol, ynghyd â digon o gyfle i fwynhau tirwedd fynyddig ac arfordirol unigryw Llŷn."
Mae yna lefydd parcio ar ochr y ffordd yn y pentref, sydd hefyd yn cael ei wasanaethu gan y bws rhif 12 rhwng Caernarfon a Phwllheli. Ar gyfer byrbrydau a lluniaeth, mae siop / gorsaf betrol dafliad carreg o'r eglwys.
Gallwch hefyd lawrlwytho'r taflen cerdded y gellir ei hargraffu a'r map llwybr i fynd gyda chi ar eich taith gerdded.
Cydnabyddiaethau