Eglwys Sant Ffraid, Ceredigion

Taith gylchol yn cyfuno golygfeydd arfordirol a chefn gwlad tawel heb lawer o draffig

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a gorffen

Pentref Llanrhystud (trwy Llansantffraid)

Pellter

Taith gylchol 6 milltir neu 9 km

Ar hyd y ffordd

Gan adael Llanrhystud a dilyn arwyddion Llwybr Arfordir Cymru, ewch i'r de orllewin ar hyd ffordd gul tuag at yr arfordir. Mae'r llwybr i'r de yn amrywiol gan ei fod yn dilyn glan graean hir cyn eich arwain at ymyl clogwyni clai sy'n edrych dros y môr a heibio adfeilion odynau calch Craiglas, olion trawiadol gorffennol diwydiannol Ceredigion.

Yn ogystal â'r odynau a'r adeiladau gwaith, efallai y cewch gipolwg ar olion hen lanfeydd yn y dŵr pan fydd y llanw'n isel. Mwynhewch olygfeydd gwych o Fae Ceredigion gyda braich greigiog Pen Llŷn yn ymestyn allan i'r môr ar ddiwrnod clir.

Mae'r llwybr yn parhau ar draws caeau a lôn werdd i eglwys Sant Ffraid. Ar ôl i chi ymweld â'r eglwys, croeswch y bont a throwch i'r chwith i ddilyn y llwybr troed tuag at brif ffordd yr A487. Trowch i'r dde ac ar ôl croesi'r ffordd dilynwch yr arwydd llwybr troed nesaf ar eich ochr chwith. Byddwch yn cerdded i lawr trac amlwg cyn ymuno â llwybr ceffylau a lôn werdd goediog swynol trwy Gwm Peris.

Mae golygfeydd gwych o'r arfordir a'r mynydd wrth iddo ddringo i ben y bryniau ger bryngaerau Castell Mawr a Chastell Bach o'r Oes Haearn gan eich arwain yr holl ffordd yn ôl i'ch man cychwyn yn Llanrhystud.

Man Treftadaeth Cysegredig

Man geni Santes Non, mam Dewi - mae gan eglwys Sant Ffraid le arbennig yn nhirwedd grefyddol Cymru. Mae eglwys wedi sefyll yma ers y ddeuddegfed ganrif, er mai'r unig arwydd sydd wedi goroesi o'i dyddiau cynharaf yw'r bedyddfaen calch wedi'i addurno â band o fowldiau rhosedi.

Codwyd y twr sgwâr tal yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac mae'r ffenestri gwreiddiol a ffrâm brin y gloch yn dal yno, tra bod gweddill yr eglwys wedi'i hailadeiladu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg (cadwch lygad am y trawst cywrain yn nho'r cyntedd, wedi'i ail-wneud o'r groglen ganoloesol).

Y tu mewn fe welwch ffenestri gwydr lliw yn darlunio Sant Ffraid, cenhadwr Gwyddelig a anwyd tua 450 OC, a Santes Non ei hun. Credir bod mam Dewi Sant wedi ei geni yma (mae Llanon yn golygu 'man cysegredig Non') ac ar un adeg roedd ei man geni wedi'i nodi gan gapel gerllaw.

Er bod yr adeilad hwnnw wedi'i golli i hanes gallwch weld carreg grom wedi'i gosod yng nghyntedd eglwys Sant Ffraid, a ddygwyd o safle'r capel ryw 40 mlynedd yn ôl.

Mae helfa drasig y môr yn cael ei choffáu ar lawer o gerrig beddi ym mynwent eglwys Sant Ffraid. Mae saith deg pedwar o forwyr a fu farw oddi cartref yn cael eu cofio yma, y mwyafrif ohonynt wedi boddi.

Darganfyddwch fwy am eglwys St Ffraid 

Uchafbwyntiau'r daith

Mae Nigel Nicholas, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru yn dweud, “Mae hon yn daith gylchol wych sy'n byrlymu â hanes, yn cynnwys cymysgedd o arfordir a chefn gwlad mewn lleoliad heddychlon heb fawr o draffig.”

Gwybodaeth ddefnyddiol

Fe welwch lefydd parcio, tafarndai, caffis a siopau yn Llanrhystud, Llansanffraid a Llanon (mae yna doiledau cyhoeddus yn Llanon hefyd). Os yw'n well gennych fynd am dro byrrach, mae opsiwn i deithio yn ôl i'ch man cychwyn trwy wasanaeth bws lleol rheolaidd.

Taflen Teithio a Map

Gallwch hefyd lawrlwytho'r taflen cerdded y gellir ei hargraffu a'r map llwybr i fynd gyda chi ar eich taith gerdded.

Cydnabyddiaethau
Datblygwyd y daith hon mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol. Ewch i'w gwefan www.explorechurches.org/cymru i ddarganfod mwy gan gynnwys teithiau a phrofiadau y gellir eu harchebu.