Oxwich

Mwynhewch daith gerdded gydag amrywiaeth o gynefinoedd twyni tywod ac ardaloedd coediog

Paddy Dillon

Nodwch y dudalen hon
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Mae taith gerdded o bentref bach Oxwich yn archwilio Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich. Mae’r ardal hon yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd, yn seiliedig ar Dwyni Oxwich a’r llethr calchfaen serth a orchuddir gan Goed Nicholaston. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg yn syth drwy’r warchodfa a gellir ei ddefnyddio i gyrraedd dwy daith gylchol hynod amrywiol.

Manylion y llwybr

Pellter: 5 milltir neu 8.1 cilomedr
Man cychwyn: Maes parcio traeth Oxwich
Cyfeirnod grid y man cychwyn: SS 50103 86549
Disgrifiad what3words y man cychwyn: dychmygus.etholaeth.gwisgais

Trafnidiaeth i’r man cychwyn

Parcio
Parcio ar draeth Oxwich.

Bysiau
Mae gwasanaethau bws dyddiol, ac eithrio dydd Sul, yn cysylltu Oxwich â Chilâ a chyrchfannau eraill o amgylch Penrhyn Gŵyr.

Trenau
Dim.

Map a dolen GPX

Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX 'Oxwich'

Disgrifiad Manwl o’r Llwybr

1. Dechreuwch ym maes parcio traeth Oxwich, neu os ydych yn cyrraedd ar fws, dechreuwch wrth y lloches bws ar groesffordd gyfagos a cherddwch heibio i siop goffi’r Dunes i gyrraedd y fynedfa i faes parcio traeth Oxwich. Cyn gynted ag y byddwch yn dod i mewn i’r maes parcio, mae llwybr cul yn anelu i’r chwith, yn arwain trwy redyn a llwyni. Mae hwn yn rhedeg yn gyfochrog â’r ffordd ac yn cyrraedd giât mochyn yn fuan, lle saif arwyddbost Llwybr Arfordir Cymru ger hysbysfwrdd yn egluro am Warchodfa Natur Genedlaethol Oxwich. Mae map yn dangos cwrs ‘Taith Gerdded Twyni a Thraeth’ o amgylch Twyni Oxwich, wedi’i nodi mewn glas, a ‘Taith Gerdded Coed Nicholaston’, wedi’i nodi mewn melyn. Bydd y ddau lwybr hyn yn cael eu cerdded gyda’i gilydd, gydag amrywiadau bach ar hyd y ffordd.

2. Dilynwch y saethau glas drwy dwyni tywod â llystyfiant, gan fynd heibio i ardaloedd perthog a choediog. Mae arwyddbost arall ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru o’ch blaen, ger hysbysfwrdd gwarchodfa arall. Cadwch i’r dde o dir wedi’i amgáu â ffens bren i ddilyn trac glaswelltog a thywodlyd. Ewch heibio i fynedfa â giât, ac yn nes ymlaen mae’r trac yn rhannu ac mae saeth las yn pwyntio i’r dde. Nes ymlaen fyth, ar ôl mynd drwy ddarn o goetir, mae saethau glas yn pwyntio i’r dde eto. Parhewch i gerdded ymlaen gan ddilyn y saethau drwy’r twyni, gan fynd drwy giât mochyn nes ymlaen. Mae’r llwybr yn gul wrth iddo weu rhwng y twyni, gan gyrraedd bwrdd mapiau. (Bydd y llwybr yn dychwelyd i’r man hwn yn ddiweddarach, ond os oes angen taith gerdded sy’n fyrrach, trowch i’r dde yn y fan hon ac ewch yn syth i’r traeth, gan haneru’r pellter i bob pwrpas.)

3. Trowch i’r chwith gan ddilyn saeth werdd, sy’n nodi llwybr cyswllt rhwng y llwybr glas a’r llwybr melyn. Arferai Llwybr Arfordir Cymru groesi pont droed gerllaw, ond cafodd hon ei datgymalu ac adeiladwyd dwy bont droed newydd ar draws dwy sianel lanw. Croeswch y gyntaf o’r pontydd troed hyn yn unig, yna trowch i’r chwith i adael Llwybr Arfordir Cymru, eto gan ddilyn saeth werdd. Croeswch bont garreg dros sianel ddraenio â chyrs yn tyfu ar ei hymylon a dilynwch drac graean ar hyd troed llethr coediog. Mae’r trac yn llithro i Goed Nicholaston ac yn codi’n raddol. Ar ôl mynd i lawr yn raddol am bellter byr, mae’r trac yn codi ychydig at gyffordd. Does dim saeth yma, ond trowch yn dynn i’r dde i fyny trac arall. (Gellir cymryd llwybr byr cyn y troad hwn os gwelir llwybr yn dringo ar y dde ychydig cyn y gyffordd.)

4. Mae’r trac yn troi yn llwybr yn fuan, gan godi a disgyn ar draws y llethr wrth iddo redeg trwy Goed Nicholaston. Yn y diwedd, cyrhaeddir platfform lle mae golygfeydd yn ymestyn o Fae’r Tri Chlogwyn a Phen Pwll-du am Drwyn Oxwich, o bwynt yn union uwchben y ddwy bont droed a ddefnyddir gan Lwybr Arfordir Cymru. Mae’r llwybr yn parhau ar draws y llethr coediog ac yn weddol droellog, ac mae wedi’i dorri o’r creigwely calchfaen mewn mannau. Cyrhaeddir cyffordd lle mae saeth felen yn dynodi troad i’r dde, gan fynd i lawr y bryn. Mae’r un peth yn digwydd ymhellach i lawr y bryn, lle mae arwyddbost â saeth felen yn pwyntio i’r dde ar gyffordd arall o lwybrau.

5. Ar y gyffordd nesaf, mae dewis o lwybrau. Mae’r llwybr melyn yn troi i’r dde, ond ni ddylid ei ddilyn ymhellach. Yn lle hynny, trowch i’r chwith i lawr y bryn fel gan ddilyn saeth werdd ar bostyn, neu trowch i’r chwith i fyny’r bryn ar hyd llwybr heb ei farcio. Mae’r saeth werdd yn dangos llwybr byr i lawr drwy’r coed, gan fynd heibio i fwrdd mapiau a chyrraedd cyffordd â Llwybr Arfordir Cymru yn fuan. Os dewiswch yr opsiwn hwn, trowch i’r dde ar hyd llwybr tywodlyd i barhau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Os dilynir y llwybr heb ei farcio, yn gyffredinol mae’n dringo ac yn torri ar draws llethr mwy serth, llai coediog gyda chlogwyni calchfaen uwchben ac islaw. Mae disgyniad yn arwain at gyffordd lle mae tro sydyn i’r dde yn arwain at Lwybr Arfordir Cymru. Dilynwch yr arwydd am Lwybr Arfordir Cymru ar hyd y llwybrau tywodlyd, gan fod llawer o lwybrau eraill ymhlith y twyni isel yn Nicholaston. Ewch heibio i’r man lle mae’r llwybr byr yn ymuno a chadwch yn syth ymlaen.

6. Mae marcwyr Llwybr Arfordir Cymru yn dangos y ffordd yn ôl i’r cilfachau llanw lle mae angen croesi dwy bont droed, yna mae troad i’r chwith yn arwain yn ôl at fwrdd mapiau a aethoch heibio iddo yn gynharach yn y daith gerdded. I orffen, dilynwch y traeth tywodlyd yr holl ffordd yn ôl i Oxwich. Os bydd y llanw i mewn, bydd cerdded ar dywod meddal ger y twyni tywod yn flinedig. Os yw’r llanw allan, dylai’r tywod gwlyb fod yn gadarnach dan draed. Mae’r traeth tywodlyd yn ildio i gerrig mân tua diwedd Bae Oxwich. Camwch i’r lan wrth ymyl siopau’r traeth i ddychwelyd i’r maes parcio. Os oes amser i’w sbario, yna dilynwch y traeth at lithrfa i gael mynediad i Lwybr Arfordir Cymru yng Ngwesty Bae Oxwich ac Eglwys Sant Illtud ac archwiliwch ymhellach.