Oxwich
Mwynhewch daith gerdded gydag amrywiaeth o gynefinoedd...
Taith gerdded boblogaidd sy’n ffefryn gan bobl leol ac ymwelwyr ar ran eang a chadarn o lwybr yr arfordir
Paddy Dillon
Ar ôl cerdded dros Fryn y Mwmbwls gallwch fynd yn eich blaen i gyfeiriad y tir drwy’r maestrefi, gan gysylltu cyfres o fannau gwyrdd sydd ond yn cael eu defnyddio gan bobl leol ar y cyfan. Gellir dilyn darn o Lwybr Arfordir Cymru o Fae Caswell a Bae Langland i Fae Limeslade a Bae Bracelet. Mae’r darn hwn o Lwybr yr Arfordir yn llydan ac yn gadarn ar ei hyd, yn llawer mwy diogel na’r rhan fwyaf o lwybrau clogwyni, ac mae’n boblogaidd gyda cherddwyr lleol ac ymwelwyr.
Pellter: 6.8 milltir neu 10.9 cilomedr
Man cychwyn: Bae Bracelet, Y Mwmbwls
Cyfeirnod grid y man cychwyn: SS 62881 87313
Disgrifiad what3words y man cychwyn: noddi.cynlluniodd.garddwrn
Parcio
Parcio ym Mae Bracelet, y Mwmbwls.
Bysiau
Mae gwasanaethau bws dyddiol yn cysylltu Bae Bracelet ag Abertawe.
Trenau
Dim.
Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX 'Mumbles Hill' (Bryn y mwmbwls)
1. Mae maes parcio mawr ym Mae Bracelet gyda safleoedd bysiau wrth ei ymyl. Mae golygfeydd ar draws y bae yn cynnwys dwy ynys ac mae goleudy Pen y Mwmbwls ar un ohonynt. Gadewch y maes parcio gan ddefnyddio rhes o risiau concrit i gyrraedd safleoedd bysiau cyfagos ac yna dilynwch y palmant ar hyd y ffordd. Croeswch y ffordd i ddilyn trac sy’n dangos arwydd ar gyfer ‘Gwarchodfa Natur Bryn y Mwmbwls’. Mae’r trac yn troi i’r dde wrth iddo ddringo. Mae dargyfeiriad byr i’r dde yn arwain at safle Batri Amddiffyn yr Arfordir, ond fel arall cadwch i’r chwith ac ewch heibio i’r chwith o fast radio Gwylwyr y Glannau, gan gyrraedd golygfan a hysbysfwrdd. Er gwaethaf cael ei rhwystro’n rhannol gan goed, mae golygfa ar draws Bae Abertawe am y ddinas.
2. Trowch i’r chwith i ddringo ar hyd llwybr coetir, gan fynd heibio i bwynt trig ar 77 metr, lle mae arwydd yn pwyntio i gyfeiriad ‘Byncer a Gynnau / Bunker and Guns’. Mae llwybr arall yn disgyn i’r dde am y Mwmbwls, ond cadwch yn syth ymlaen, gan aros yn uchel. Mae’r llwybr yn rhannu ac mae tro i’r chwith yn arwain at Thistleboon Drive, felly, yn lle hynny, cadwch i’r dde i gyrraedd safleoedd byncer a drylliau yr Ail Ryfel Byd, lle mae digon o hysbysfyrddau yn cynnig gwybodaeth. Ewch heibio o flaen maes bach o gartrefi symudol, ac ewch ymlaen trwy lecyn glaswelltog. Mae llwybr gyda 50 o risiau concrit yn disgyn heibio i ychydig o dai i lanio ar ffordd gul Thistleboon Road. Trowch i’r dde i’w dilyn yn serth i lawr y bryn, yna trowch i’r chwith i ddringo’n serth i fyny Tichbourne Street.
3. Mae rhan olaf, fwyaf serth y ffordd yn arwain at set o gatiau. Ychydig cyn eu cyrraedd, trowch i’r dde ar hyd llwybr cul rhwng ffensys, gan fynd heibio i arwydd am Goedwig Crib y Mwmbwls. Dringwch yn serth, yna mae’r llwybr yn gwastatáu gyda choetir yn disgyn i’r dde a gerddi ar gefn tai i’r chwith, gyda ffensys neu waliau uchel wrth eu hochr. Osgowch lwybrau sy’n arwain i’r chwith a’r dde a daliwch i gerdded yn syth ymlaen. Mae llwybr tarmac yn arwain at ffordd sy’n cael ei dilyn ymlaen ac i lawr y bryn trwy stad o dai. Trowch i’r chwith ar y gyffordd ffyrdd gyntaf, i ddilyn Wychwood Close, yna trowch i’r dde i gerdded ar i lawr yn raddol ar hyd Amberley Drive. Mae llwybr tarmac wedi’i ffensio yn parhau i lawr y bryn rhwng tai, gan gyrraedd cyffordd gymhleth iawn o ffyrdd. (Mae llwybr byr ar gael i lawr Rotherslade Road, gan gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru ym Mae Rotherslade. Byddai defnyddio hwn i bob pwrpas yn haneru pellter y daith gerdded.)
4. Cerddwch yn syth ymlaen heibio i Higher Lane a Rotherslade Road a throwch i’r chwith ar hyd Langland Bay Road. Pan fydd hon yn dechrau disgyn tuag at yr arfordir, trowch i’r dde yn lle hynny i lawr ffordd gul sydd wedi ei marcio fel llwybr cyhoeddus. Dilynwch hon nes y gellir dringo rhes o 70 o risiau carreg ar y dde. Mae’r llwybr yn dringo’n serth ac yn parhau fel palmant, gan ddringo wrth ymyl Groves Avenue. Mae’r ffordd yn gwastatáu i gyrraedd croesffordd. Trowch i’r chwith ar hyd Caswell Road, gan gyrraedd cyffordd wrth ymyl Eglwys San Pedr. Trowch i’r chwith i gerdded yn raddol i lawr y bryn ar hyd Mary Twill Lane, nes bod arwyddion llwybr cyhoeddus yn pwyntio i’r chwith ac i’r dde.
5. Trowch i’r dde, gan gerdded yn raddol i fyny ac i lawr ffordd fer i gyrraedd cyffordd. Trowch i’r dde a dringwch lond llaw o risiau i ffordd gul o’r enw Hill Grove. Trowch i’r dde i gerdded i fyny ar ei hyd. Mae’n lledu wrth rywfaint o dai cyn culhau ar gyffordd â Caswell Road. Trowch i’r chwith i lawr y bryn, gan ddilyn y palmant ar ochr chwith y ffordd. Mae’r ffordd yn disgyn yn serth ac mae’r palmant yn dod i ben, felly croeswch y ffordd a mynd heibio i giât i ddilyn llwybr i mewn i goetir, yn dilyn arwyddbost am Landeilo Ferwallt (Bishopston).
6. Dyma Warchodfa Natur Leol Bishop’s Wood. Cadwch at y llwybr mwyaf poblogaidd o’ch blaen bob amser, gan osgoi llwybrau llai i’r dde ac i’r chwith. Ewch i lawr llethr coediog ac yna dringo gyda mwy o fannau glaswelltog wrth eich ymyl a golygfa dda o Fae Caswell. Dewch i lawr drwy’r coed eto ac yna dringwch ychydig. Mae disgyniad hirach yn dilyn olion ffensys trwy’r coed. Mae adeiladau i’w gweld i’r dde, ond daliwch ati i droi i’r chwith ar gyffyrdd llwybrau ar hyd y ffordd i lawr. Edrychwch ar loches ryfeddol y Tŷ Crwn a dilynwch lwybr yn raddol i lawr ohono, ar hyd llawr y dyffryn coediog. Mae hwn yn arwain at hysbysfwrdd yn esbonio am y warchodfa, wrth ymyl maes parcio mawr. Cerddwch ochr yn ochr â’r maes parcio ac ewch heibio i’r toiledau, yna croeswch y ffordd i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru ym Mae Caswell, lle mae cabanau byrbryd a chaffi traeth.
7. Mae traeth tywodlyd wedi’i amgylchynu gan glogwyni ac mae arwyddbost Llwybr Arfordir Cymru yn nodi llwybr y tu ôl i’r cabanau byrbryd a’r caffi, yn pwyntio’r ffordd am Fae Langland. Mae’r llwybr yn goncrit i ddechrau, gan godi o’r bae, ac yna mae’n newid i lwybr graean cadarn sydd â ffensys wrth ei ymyl yn bennaf. Mae darn hir heb ffens yn mynd heibio i arwyddbost tair ffordd sy’n cynnig taith gerdded ar hyd llwybr ar ben y clogwyn, ond daliwch i gerdded yn syth ymlaen ar hyd y llwybr isaf. Mae’r llwybr yn troi’n goncrit eto, gyda ffens wrth ei ochr, gan ddringo 14 o risiau concrit a cholli golwg ar Fae Caswell wrth droi rownd brigiad calchfaen ar Bwynt Whiteshell. Gwelir y llwybr yn ymestyn o’ch blaen, yn codi ac yn disgyn yn hamddenol ar draws y llethrau geirwon, heb unrhyw arwydd o breswylfa. Mae’r llwybr yn bennaf heb ei ffensio, yna ar ôl troi rownd Snaple Point, mae golygfa sydyn o Fae Langland.
8. Mae cyferbyniad rhwng arddull barwnol Albanaidd Langland Manor o’r 19eg ganrif, gyda’i dŵr a’i dyrred, a’r rhesi o gabanau traeth syml, unffurf. Mae llwybr tarmac yn arwain o amgylch y bae, gan fynd heibio i gabanau’r traeth. Sylwch sut y cafodd Langland’s Brasserie by the Sea a’r bloc toiledau eu hadeiladu yn yr un arddull â’r cabanau traeth. Pasiwch uwchben y Surfside Café a mynd heibio i draeth o gerrig mân, creigiau a thywod. Mae’r llwybr tarmac yn codi heibio i dai ac yna’n disgyn i ben pellaf Rotherslade Road, lle mae rhaeadr o risiau concrit yn gwasanaethu’r traeth cerrig mân a thywod ym Mae Rotherslade, sydd wedi’i amgylchynu gan glogwyni bach.
9. Ewch heibio o flaen caffi a dilynwch lwybr concrit i fyny’r bryn. Ewch heibio i arwyddbost arferol Llwybr Arfordir Cymru, ac yna arwydd rhyfedd wrth ymyl mainc bren wedi’i cherfio’n gywrain. Ewch heibio i arwyddbost arall wrth gerdded yn raddol i lawr y bryn. Mae’r llwybr concrit yn ildio i lwybr tarmac, sy’n rhedeg hyd at arwyddbost tair ffordd sy’n cynnig llwybr tua’r tir i’r maestrefi cyfagos. Fodd bynnag, mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg yn raddol i lawr y bryn, i fyny’r bryn ac i lawr y bryn eto, ac mae ffens gadarn yn dechrau rhedeg wrth ei ochr. Dringwch ac ewch heibio i arwyddbost tair ffordd arall sy’n cynnig llwybr tua’r tir, ond daliwch i gerdded yn syth ymlaen, heb unrhyw arwydd o breswylfa. Dringwch yn serth ar adegau ac yna mae’r llwybr tarmac yn troi’n llwybr concrit sy’n troi o amgylch brigiad creigiog Rams Tor.
10. Mae’r llwybr yn mynd ar i lawr a gellir gweld gorsaf wylio ar y pentir nesaf. Edrychwch yn ofalus i weld bod y darn hwn o lwybr wedi disodli llwybr cynharach a oedd yn rhedeg ar lefel is. Mae’r llwybr yn ymuno â Mumbles Road, a ddilynir o amgylch Bae Limeslade, gan fynd heibio i gaffi a thraeth bach o greigiau a cherrig mân. Dilynwch y ffordd yn raddol i fyny’r bryn i barc chwarae a llawer o feinciau. Naill ai cadwch yn syth ymlaen ar hyd y ffordd, gan orffen wrth safle bws, neu trowch i’r dde i orffen yn y maes parcio ym Mae Bracelet.