Pentywyn
Mwynhewch y golygfeydd o draethau sy'n adnabyddus...
Tref sy’n gyforiog o hanes gyda digon o lwybrau amgen i archwilio coetiroedd, gwlyptiroedd a nodweddion treftadaeth gerllaw
Paddy Dillon
Mae Caerfyrddin ar Lwybr Arfordir Cymru, er ei bod ymhell i mewn i’r tir, a sicrhaodd llanw afon Tywi y gallai’r
dref weithredu fel porthladd llwyddiannus. Mae gan Gaerfyrddin ddigonedd o ddiddordeb hanesyddol, ond ychydig o bobl sy’n ymwybodol o’r llwybrau y gellir eu defnyddio i archwilio’r maestrefi, gan fynd heibio i goetiroedd, gwlyptiroedd, nodweddion treftadaeth a bryn bach, ac ar hyd darn o Lwybr Arfordir Cymru gerllaw afon Tywi.
Pellter: 5.8 milltir neu 9.4 cilomedr
Man cychwyn: Gorsaf Drenau Caerfyrddin
Cyfeirnod grid y man cychwyn: SN 41259 19694
Disgrifiad what3words y man cychwyn: cefnogwyr.symbylu.rholiau
Parcio
Gellir parcio yng Ngorsaf Drenau Caerfyrddin, Y Cei ger yr afon, Heol Las ger yr orsaf fysiau, ac mewn llawer o leoliadau eraill o amgylch y dref, gan gynnwys Canolfan Hamdden Caerfyrddin.
Bysiau
Mae gwasanaethau bws dyddiol yn cysylltu Caerfyrddin â sawl cyrchfan yn ne-orllewin Cymru. Mae bysiau hefyd yn cysylltu maestrefi Caerfyrddin â chanol y dref.
Trenau
Mae gwasanaethau trên dyddiol i Gaerfyrddin o Gaerdydd ac Abertawe ar Brif Reilffordd De Cymru, yn ogystal â gwasanaethau o Reilffordd Gorllewin Cymru.
Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX 'Carmarthen'
1. Cychwynnwch yng Ngorsaf Drenau Caerfyrddin, sydd ar Lwybr Arfordir Cymru, a cherddwch drwy faes parcio i groesi pont droed grwm – Pont King Morgan – dros afon Tywi. Mae’r bont droed wedi’i henwi ar ôl dau frawd, Gwyn a Jack King Morgan, a oedd yn rhedeg siop fferyllydd canrif oed yn y dref. Mae'r golygfeydd yn cynnwys Neuadd y Sir, sydd wedi'i gosod y tu mewn i Gastell Caerfyrddin, sy’n dyddio’n ôl i’r unfed ganrif ar ddeg. Dyma un o'r trefi hynaf yng Nghymru ac yn y ganrif gyntaf roedd yn lleoliad caer Rufeinig Moridunum, neu ‘gaer y môr’. Erbyn y ddeunawfed ganrif, hon hefyd oedd tref fwyaf Cymru. Ar ôl croesi'r bont droed, trowch i'r chwith i ddilyn llwybr ar lan yr afon ar hyd Y Cei. (Os ydych chi’n dechrau o’r orsaf fysiau neu o faes parcio yng nghanol y dref, cerddwch i lawr i lan yr afon a throwch i’r dde i gerdded ar hyd Y Cei.)
2. Ewch heibio hysbysfwrdd mawr dwyochrog yn rhoi gwybodaeth am Borthladd Caerfyrddin. Yr adeilad glas yw Canolfan y Cei, ac o ddiddordeb arbennig yw casgliad o gwryglau wrth ei hochr gyda lluniau yn dangos sut mae pysgotwyr lleol yn eu defnyddio ar yr afon. Er 1546, mae pob maer Caerfyrddin yn olynol wedi dal y teitl Llyngesydd Porthladd Caerfyrddin. Ar un adeg, roedd swm y nwyddau a gâi eu cludo i'r dref ac oddi yno yn fwy na'r hyn a ddeuai i mewn ac allan o Gaerdydd. Ar un adeg, roedd llongau'n cael eu hadeiladu a'u lansio ar hyd glan yr afon.
3. Ewch heibio i Glwb Rhwyfo Caerfyrddin ar ochr y tir a sylwch ar dri cherflun pysgod mawr ar hyd cylchfan brysur. Croeswch y ffordd ddeuol gan ddefnyddio croesfan i gerddwyr a throwch i'r chwith, gan ddilyn arwyddbost ar gyfer llwybr beicio rhif 4, neu ‘Cwrwgl’. Byddwch yn cyrraedd siop gwerthu ceir Toyota, ac yna trowch yn sydyn i'r chwith, gan gerdded yn raddol i lawr y bryn ochr yn ochr â Lôn Iard Frics ar hyd stribed sydd wedi'i neilltuo ar gyfer cerddwyr wrth ymyl wal gerrig uchel. Mae'r ffordd a'r wal uchel yn dod i ben, ond mae llwybr beicio'n parhau. Dilynwch ef heibio ochr dde cylchfan brysur a cherddwch heibio Gorsaf Pwmpio Carthion Lôn Iard Frics.
4. Mae llwybr tarmac yn rhedeg trwy’r Morfa, sy’n warchodfa natur yn cynnwys ardaloedd coetir a gwlyptir. Mae llwybr llydan yn parhau ar hyd pen arglawdd glaswelltog, gan ymuno yn y pen draw â ffordd faestrefol yn Nhre Ioan. Trowch i'r chwith i ddilyn y ffordd ar draws afon ac yna trowch i'r dde wrth barc chwarae i barhau ar hyd ffordd Glan-yr-afon. Trowch i'r chwith ar gyffordd arall i ddilyn ffordd arall, Heol Salem, i fyny'r bryn i fynd heibio ysgol. Trowch i'r dde ar hyd Lôn Bancyfelin, ac mae'r ffordd yn ymdonni drwy'r maestrefi, gan gyrraedd cyffordd lle mae afon gyda choed o bob tu iddi.
5. Trowch i'r chwith ar hyd Heol Llysonnen, yna trowch i'r dde ar hyn trac fel y nodir ar arwyddbost ar gyfer ‘Cilffordd’. Mae tai ar y chwith, ar gyrion pellaf Caerfyrddin, a chaeau ar y dde. Nes ymlaen, ewch trwy giât a throwch i'r chwith i ddilyn llwybr troed a llwybr beicio ar hyd ffordd trwy stad o dai modern. Cadwch i'r chwith o gylchfan a chroeswch bont dros ffordd brysur yr A40. Daliwch i gerdded ar hyd y llwybr troed a'r llwybr beicio wrth ochr y ffordd nes bod arwyddbost yn cyfeirio i'r chwith. Dilynwch lwybr tarmac oddi wrth y ffordd, croeswch gamfa risiau, ac ewch drwy giât. Gwyliwch yn ofalus am drenau wrth ddefnyddio croesfan reilffordd. Ewch drwy giât arall a pharhau i fyny drwy giât mochyn. Dilynwch lwybr coetir a throwch i'r dde ar hyd llwybr glaswelltog rhwng dau fyngalo i fynd i mewn i bentref Llanllwch.
6. Croeswch y ffordd a dilynwch lwybr tarmac llydan ond byr rhwng mwy o fyngalos. Trowch i'r chwith i lawr ffordd i fynd heibio i Eglwys y Santes Fair, a gysylltwyd yn wreiddiol ag Eglwys San Pedr yng Nghaerfyrddin. Sefydlwyd yr eglwys yn y ddeuddegfed ganrif ond mae wedi'i hailadeiladu, ei hatgyweirio a'i hadfer ar hyd y canrifoedd. Ychydig i lawr y ffordd o'r eglwys a safle bws, trowch i'r chwith ar hyd lôn laswelltog wrth ymyl Leat House. Ewch i fyny’n raddol ac wedyn disgyn yn raddol ar draws llethr coediog i gyrraedd tŷ unigol, Melin Llanllwch. Trowch i'r chwith i fynd drwy giât mochyn a cherdded i lawr yr afon trwy goetir. Croeswch bont a dilynwch lwybr i ffordd. Croeswch y ffordd a dilynwch lwybr gyda ffensys o bob tu iddo, rhwng cae ac unedau diwydiannol, gan gyrraedd tai ar Heol Alltycnap.
7. Trowch i'r dde ar hyd y ffordd, yna i'r chwith i fyny rhes o risiau pren i Goed Ystrad, a reolir gan Coed Cadw. Cyn bo hir, mae'r llwybr yn gwastatáu ac mae wedi'i ffensio wrth iddo fynd heibio i dai. Mae dringfa serth i gyffordd llwybrau, gyda throad i'r dde yn arwain ymhellach i fyny'r bryn. Trowch i'r chwith ar hyd llwybr gwastad ac yna dringwch eto tuag at ymyl uchaf y coetir. Cadwch i'r chwith i ddilyn llwybr sy'n codi ac yn disgyn, dros 75m uwchlaw lefel y môr ar Ben Ystrad. Edrychwch yn ofalus am lwybr igam-ogam sy'n rhedeg i lawr y bryn, ac yn arbennig cymerwch ofal i gadw llygad am droad i'r dde, i lawr llwybr cul yn agos at stad o dai ar waelod y llethr. Mae'r troad hwn yn datgelu llwybr rhwng wal frics a ffens, gan fynd rhwng tai i gyrraedd ffordd. (Gerllaw mae Plas Ystrad, ac yno mae adeilad wedi bodoli ers yr unfed ganrif ar bymtheg. Rhoddodd un o’r trigolion yn y ddeunawfed ganrif, John Jones, ei enw i Dre Ioan gerllaw.)
8. Trowch i'r chwith i lawr y ffordd, sef Heol Drindod, gan ei dilyn drwy'r stad dai. Trowch i'r dde ar y gwaelod ac yna trowch i'r chwith ar gyffordd i ddilyn Lôn Ystrad i ffordd brysur. Croeswch y ffordd a throwch i'r dde i gerdded ar hyd tiroedd adeilad helaeth Canolfan Hamdden Caerfyrddin. Er ei bod yn bosibl cerdded trwy faes parcio'r ganolfan hamdden i gysylltu â Llwybr Arfordir Cymru, nid yw hwn yn hawl tramwy ac efallai y bydd y gatiau wedi'u cloi. Felly, ewch ymlaen ar hyd y ffordd i gyrraedd arwydd ar gyfer Clwb Pêl-droed Tre Ioan. Trowch i'r chwith fel y nodir ar arwyddbost ar hyd llwybr concrit, a throwch i'r chwith eto ar y gwaelod i ddilyn darn concrit o Lwybr Arfordir Cymru.
9. Croeswch bont droed ac ewch drwy giât mochyn. Mae dringfa fer, serth yn arwain trwy giât mochyn arall, yna mae llwybr tarmac yn parhau ar hyd glannau coediog afon Tywi. Ewch heibio maes parcio'r ganolfan hamdden a throwch i'r dde ac i'r chwith, fel y nodir ar arwyddbyst, ar hyd llwybr tarmac. Ewch drwy giât mochyn a dilynwch y llwybr i lawr y bryn. Croeswch bont droed ac ewch drwy giât fach i ddilyn llwybr tarmac isel drwy ardal o wlyptir ar lan yr afon. (Cofiwch y gall yr ardal hon fod o dan ddŵr pryd bynnag y bydd afon Tywi yn gorlifo ei glannau, ac os felly dychwelwch i’r ganolfan hamdden a naill ai cerdded yn ôl i Gaerfyrddin ar y ffordd neu ddal bws.)
10. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg o dan y Bont Wen, a adwaenir yn fwy cyffredin fel y Bont Wrthbwys. Cyfeiria'r enw at bont sy'n codi a gellir gweld y peirianwaith a ganiataodd i bont y rheilffordd gael ei hagor er mwyn i longau uchel gyrraedd Caerfyrddin. Dechreuodd y gwaith adeiladu ym 1908, gan ddisodli pont bren gynharach, ond nid yw'r mecanwaith codi yn gweithio mwyach. Dilynwch y llwybr ymlaen wrth lan yr afon, gan groesi pont sydd â gatiau o bob tu iddi a mynd heibio siop B&Q. Ewch o dan ffordd brysur yr A40 ac mae’r llwybr yn arwain yn ôl at y gylchfan gyda’r cerfluniau pysgod mawr wrth ei hochr. Y cyfan sydd ar ôl yw mynd yn ôl at bont droed King Morgan a naill ai dychwelyd i'r orsaf drenau, yr orsaf fysiau neu'r maes parcio lle dechreuoch gerdded.