Caldicot i Cas-gwent
Pontydd anferth a phentrefi bychain gyda chyfoeth...
Traeth trawiadol, goleudy, eglwys hynafol, castell Normanaidd a'r olaf o gestyll Edward yng Nghymru
Pentraeth i Langoed neu Fiwmares.
12 milltir / 19 cilometr (os ydych yn stopio yn Llangoed) neu 15 milltir / 24 cilometr ar gyfer y llwybr cyfan.
Ar ôl parcio ym Mhentraeth cerddwn i lawr Stryd y Brics, cyn croesi'r bont a throi i'r dde dros grid gwartheg i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru ym mhen tawelach Traeth Coch. Hwn yw un o faeau mwyaf Ynys Môn, ac adeg distyll mae'r ardal gyfan yn ehangder enfawr o dywod a morfa heli.
Gan droi i'r dde ar hyd y trac rydym yn ei ddilyn o amgylch ymyl y dŵr. Gwiriwch amseroedd y llanw cyn cychwyn gan y gall y rhan hon fod dan ddŵr adeg penllanw. Mae yna hefyd lwybr penllanw ag arwyddbyst ar gael ar hyd ymyl coedwig Pentraeth a gellir defnyddio hwn fel taith gerdded gylchol fer yn ôl i Bentraeth neu fel llwybr amgen ymlaen os oes chwant arnom geisio cael cipolwg ar Wiwerod Cochion enwog Ynys Môn.
Fodd bynnag, awn ymlaen ar hyd ymyl y morfa ar hyd gwahanol rannau o'r llwybr pren ac ar hyd y lôn sy'n rhedeg yn gyfochrog â thraeth godidog Llanddona.
Ar ôl dringo'r grisiau ym mhen pellaf y traeth mae'r llwybr wedyn yn mynd i ffwrdd drwy gaeau a lonydd, ac yn fuan daw Ynys Seiriol i’r golwg yn y pellter.
Yna mae'r llwybr yn mynd ychydig tua’r tir am ryw filltir cyn cyrraedd y Trwyn Du ysblennydd yn Nhrwyn Penmon lle mae delwedd eiconig y goleudy rhwng y tir mawr ac Ynys Siriol yn disgwyl.
Er gwaethaf ei henw, ychydig iawn o balod sydd ar yr ynys hon ond mae'n ardal bwysig i adar môr, ac mae morloi llwyd yn defnyddio traethau'r ynys anghyfannedd i gael eu lloi bach. Nid yw'r ynys yn hygyrch ond mae tripiau cwch rheolaidd yn gadael o Fiwmares i deithio o’i hamgylch.
Mae caffi Pilot House yma yn fan cyfleus am seibiant cyn i ni ddilyn y ffordd i ffwrdd o Drwyn Penmon am ryw filltir nes cyrraedd Priordy Penmon.
Mae hanes Penmon yn ymestyn yn ôl i'r chweched ganrif, pan sefydlwyd mynachlog yma. Credir bod y ffynnon sanctaidd (gyda’i phriodweddau iachau honedig) yn gysylltiedig â'r cyfnod hwn, er bod y gell sy'n gartref iddi wedi’i hadeiladu’n llawer diweddarach. Mae olion y priordy yn dyddio i raddau helaeth o'r drydedd ganrif ar ddeg, pan ddaeth yn rhan o urdd Sant Awstin.
Y tu mewn i'r eglwys, sy'n dal i wasanaethu'r plwyf heddiw, saif croes drawiadol. Yn dyddio o'r ddegfed ganrif, mae ei choes wedi'i cherfio â phatrymau cymhleth o rwyllwaith a phlethi.
Hefyd yn werth ymweld ag ef, ar draws y ffordd mae blwch adar ar raddfa wirioneddol epig, sef Colomendy Penmon o’r bymthegfed ganrif. Roedd hwn yn ffynhonnell o gig ac wyau i’r tirfeddiannwr lleol cyfoethog a’r gwleidydd dylanwadol, Syr Richard Bulkeley.
Ymlaen â ni yn awr ar hyd y ffordd am filltir a hanner nes i ni gyrraedd Lleiniog. Bydd amdaith fer yma yn mynd â ni tua’r tir i adfeilion Castell Aberlleiniog, sef castell mwnt a beili a adeiladwyd gan y Normaniaid. Adferwyd rhannau o'r castell ac mae mynediad da iddo ar hyd llwybr pren drwy'r corsydd cyfagos.
Os cerddwch ychydig oddi yma drwy warchodfa natur goetir hyfryd i bentref Llangoed, gallwch ddal bws i ddychwelyd i'ch man cychwyn ym Mhentraeth (a fydd yn golygu newid naill ai ym Miwmares neu Borthaethwy).
Yn ôl ar yr arfordir, mae’r rhan nesaf yn llanwol – gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio amseroedd y llanw ymlaen llaw a gadewch o leiaf awr bob ochr i benllanw cyn cychwyn. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, dilynwch y llwybr amgen ar hyd y ffordd sy'n ail-ymuno â'r arfordir ymhen rhyw filltir.
Mae opsiwn y draethlin yn ddiddorol oherwydd ei chlogwyni brau sy'n dangos yn glir yr haenau o ddyddodion rhewlifol sy'n gorchuddio llawer o Ynys Môn. Cynigia hefyd olygfeydd bendigedig ar draws y môr tuag at fynyddoedd y Carneddau yng ngogledd Eryri
Wrth gyrraedd Biwmares cawn ein cyfarch gan ffurf ryfedd o fyrdew Castell Biwmares. Mae'r gaer enwog hon wedi'i chadw'n eithriadol o dda ac mae'n hawlio ei lle ochr yn ochr â rhai o gestyll mawr eraill Cymru fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Hwn oedd yr olaf o'r cadarnleoedd brenhinol a grëwyd gan Edward I yng Nghymru – ac efallai ei gampwaith. Roedd Edward a'i bensaer, James o San Siôr, eisoes wedi adeiladu cestyll mawr Conwy, Caernarfon a Harlech. Biwmares oedd yn coroni’r cyfan.
Y canlyniad oedd caer o faint aruthrol a chymesuredd agos at berffaith. Roedd nid llai na phedwar cylch consentrig o amddiffynfeydd yn cynnwys ffos wedi'i llenwi â dŵr. Roedd y waliau allanol yn unig yn frith o 300 o ddolenni saeth, ond roedd diffyg arian yn golygu na chafodd ei gwblhau erioed.
Fodd bynnag, parhaodd Biwmares yn bwysig fel canolfan ar gyfer gweinyddu cyfiawnder - mae Llys a Charchar Biwmares yn cynnig cipolwg diddorol ar y ffordd y byddai olwynion cyfiawnder yn troi yn y gorffennol.
A hyd heddiw, mae'r dref yn parhau’n boblogaidd ymhlith ymwelwyr oherwydd ei hanes, ei hamrywiaeth o siopau bach a bwytai, a'i lleoliad ysblennydd wrth ochr Afon Menai gyda mynyddoedd Eryri yn gefndir syfrdanol.
Meddai Gruff Owen, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru: "Traeth tywodlyd hardd, golygfeydd arfordirol tawel, y cyfle i weld bywyd gwyllt gwych, a llwyth o safleoedd hanesyddol. Dyma lwybr sy'n ymgorffori ychydig o bopeth sy'n wych am Ynys Môn."
Anaml iawn yw’r bysiau uniongyrchol o Fiwmares i Bentraeth ac mae angen cynllunio’n ofalus i ddal un ohonynt. Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau'n newid ym Mhorthaethwy a gallant gymryd tuag awr.
Gall parcio ym mhen draw’r llwybr a chael bws i'r man cychwyn arbed amser yn aros am fysiau ar ôl cwblhau'r daith gerdded. Ond efallai y bydd yn fwy cyfleus i chi gael dau gar, y naill yn y cychwyn a’r llall ar y diwedd, neu fynd â thacsi yn ôl i Bentraeth.
Mae maes parcio, tafarn a siop ym Mhentraeth.
Mae toiledau a chaffi traeth ar agor yn Llanddona yn ystod y tymor ymwelwyr.
Mae siop hwylustod yn Llangoed.
Mae gan Fiwmares doiledau cyhoeddus, digonedd o gaffis, tafarndai, siopau a meysydd parcio.
Lawrlwythwch map taith cerdded Pentraeth i Biwmares (JPEG, 2.45MB)