Pen Clawdd i Llanmadog

Ar hyd morfeydd heli helaeth Llwchwr i hen gastell dyn a laddodd frenin efallai

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cychwyn a gorffen

Cychwyn yn y maes parcio yng nghanol Pen Clawdd, a gorffen yn Llanmadog.

Pellter

10 milltir / 16 cilometr ar gyfer y llwybr cyfan, ond gellir ei gwtogi i 8 milltir / 13 cilometr (drwy ddechrau yn Crofty) neu 5 milltir / 8 cilometr (drwy ddechrau yn Llanrhidian).

Ar hyd y ffordd

Ar y cyfan, taith gerdded wastad iawn yw hon ar hyd arfordir Gogledd Gŵyr ochr yn ochr â morfeydd heli Aber Llwchwr.

Dechreuwn ym Mhenclawdd, a ddatblygodd yn yr ail ganrif ar bymtheg yn borthladd i allforio cynnyrch lleol fel glo, cocos, copr a thunplat. Adeiladwyd llawer o'r llongau a oedd yn allforio'r cynhyrchion hyn yn lleol hefyd.

O'r fan hon mae'r llwybr yn rhedeg ochr yn ochr â'r morfeydd heli, ac mewn un man yn ymuno â thrac a ddefnyddir gan y rhai sy'n dal i ennill bywoliaeth galed o waith llafurus casglu cocos yn aber Llwchwr.

Crofty

Cyn bo hir, cyrhaeddwn Crofty, a dyfodd o ddifrif pan ddechreuwyd cloddio am lo yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae strydoedd cul y bythynnod mwyngloddio gwreiddiol yn parhau ac yn rhoi naws wledig swynol i'r pentref er gwaethaf yr ystadau tai modern sydd bellach o'i amgylch.

Cyn bo hir, awn heibio i nodwedd ddiddorol o waith dyn,  o'r enw Salthouse Point. Bellach yn grair, roedd hwn yn rhan bwysig o hanes diwydiant llongau Gogledd Gŵyr. Mae tyrau gwn ac adeiladau magnelaeth o'r Ail Ryfel Byd a adeiladwyd yma wedi'u dymchwel ac erbyn hyn mae'r ardal yn gynefin pwysig i fywyd gwyllt.

Yna, rydym yn croesi Salthouse Pill (trowch i'r chwith yma am y Crofty Inn) ac yn mynd allan i Gors helaeth Llanrhidian. Yn ymestyn ar hyd arfordir gogledd Gŵyr i gyd, mae'r morfa heli hwn yn gynefin gaeaf pwysig i hwyaid, gwyddau a rhydwyr – yn ogystal â merlod gwyllt. Mae hefyd yn bwysig i amaethyddiaeth, a chig oen morfa heli yn cael ei ystyried yn arbennig o flasus.

Hwn hefyd yw man cychwyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr (AHNE). Wedi'i ddewis am ei forlin clasurol a'i amgylchedd naturiol eithriadol, Gŵyr oedd y lle cyntaf yn y DU i gael y dynodiad swyddogol hwnnw.

Erbyn hyn, mae’n dair milltir arall i Lanrhidian, ond ychydig cyn i ni gyrraedd yno, efallai y byddem am fynd allan o’n ffordd a dilyn yr arwyddbyst i fryngaer Oes Haearn Cilifor Top

Hen bentref gwledig

Teimla Llanrhidian yn debyg iawn i bentref gwledig traddodiadol. Mae ei strydoedd cul anhrefnus a'i adeiladau hanesyddol yn dwyn i gof naws yr oes o’r blaen. Mae'r Felin Isaf yng ngwaelod y pentref yn arbennig o ddeniadol.

Fodd bynnag, pentref rheng flaen ydoedd i raddau helaeth ar un adeg yn y frwydr rhwng y Cymry a'r Eingl-Normaniaid, gan wahanu "bro’r Cymry" yn yr ardal tuag at Benclawdd a "Saesonaeth" yr ardal ymhellach i'r dwyrain.

Roedd Llanrhidian yn enwog am ei diwydiant gwehyddu mawr a gellir gweld olion un o'i ffatrïoedd gwlân mwy o faint, Stavel Hagar (neu Staffal Haegr) drwy gymryd amdaith fer oddi ar y llwybr yma. Mae’r pentref hefyd yn frith o olion melinau eraill, rhai ohonynt wedi adfeilio, ac eraill wedi’u troi'n gartrefi.

Mae dau faen hir Llanrhidian - ar faes y pentref y tu allan i Eglwys Llanrhidian - ymhlith ei nodweddion amlycaf. Gellir adnabod eu topiau'n hawdd fel olion Croes Geltaidd, a chredir bod y maen uchaf yn hanesyddol yn cael ei ddefnyddio fel rhigod y pentref.

Dywedir bod ysbryd cerbydwr yn cerdded Welcome Country Pub & Kitchen gerllaw. Fe’i gwelwyd lawer o weithiau wrth fwrdd ger y ffenestr flaen

Castell mewn lleoliad dramatig

Gan symud ymlaen, ac ar ôl i ni basio coedwig Leason mae arwydd i lwybr ar y chwith yn arwain i fyny at Gastell Weblai. Mae'n werth mynd allan o’ch ffordd ychydig eto i edrych yn fanylach ar yr hen gartref bonedd hwn.

Mae'n lleoliad dramatig ac mae'r olygfa'n debyg i'r adeg pan adeiladwyd y maenordy hwn ag amddiffynfeydd 700 mlynedd yn ôl gan deulu cyfoethog de la Bere i greu cartref cain i ddiddanu gwesteion bonheddig.

Ond dengys y tŵr gwylio milwrol yr olwg mai amseroedd peryglus oedd y rhain; ganrif yn ddiweddarach dioddefodd Weblai ddifrod difrifol yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr.

Yn ddiweddarach, aeth y castell i ddwylo Syr Rhys ap Thomas, a gefnogodd Harri Tudur ym mrwydr Bosworth – ac yntau hyd yn oed efallai’n bersonol gyfrifol am ladd Richard III.

Cig oen morfa heli

Cyn gadael cawn gyfle i brynu ychydig o gynnyrch y morfeydd heli yn siop fferm deuluol cig oen morfa heli Gŵyr yng nghysgod y castell. Yn aml gellir gweld y cigyddion yn arfer eu crefft drwy'r ffenestri.

Yn ôl i lawr i'r arfordir, trown i'r chwith ac, ar ôl Landimôr, gallwn fynd allan o’n ffordd eto i ymweld ag adfail Castell Bovehill sydd wedi tyfu’n odidog o wyllt.

Olion maenordy canoloesol o'r bymthegfed ganrif, mae'n debyg, yw’r adfeilion presennol, ond sonnir am Gastell Bovehill am y tro cyntaf ym meddiant Llewelyn Fawr.

Dim ond ymdrech fer yn awr i gyrraedd y diwedd yn Llanmadog - pentref anghysbell sydd, fel llawer o Benrhyn Gŵyr, yn llawn o hanesion tylwyth teg. Ac mae'r bryn uwchben y pentref yn frith o garneddau’r Oes Efydd, o leiaf 14 ohonynt, y credir eu bod yn cael eu defnyddio fel arwyddbyst.

Yn Llanmadog mae'r Britannia Inn yn cynnig cyfle i gael lluniaeth ac mae'r prif bentref i fyny'r bryn, yn ogystal â'r safle bws.

Uchafbwyntiau’r daith gerdded

Meddai Tricia Cottnam, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru: "Taith gerdded wastad yn bennaf yw hon sy'n mynd heibio i hen bentrefi hyfryd, ac mae'n cael ei dominyddu am ran helaeth o'r llwybr gan forfeydd heli enfawr yr ardal. Mae'n gyflwyniad gwych i AHNE Gŵyr ac mae nifer y safleoedd hanesyddol ar y llwybr yn dangos pa mor strategol bwysig oedd yr ardal hon yn y gorffennol."

Angen gwybod

Mae bysiau'n gweithredu'n anaml ar y llwybr hwn, felly er mwyn peidio ag aros yn hir yn y pen draw - rydym yn argymell parcio yn Llanmadog, mynd â'r bws i'r man cychwyn a cherdded yn ôl i'r car.

Mae digonedd o lefydd i fwyta ym Mhen clawdd, a dewisiadau yn Crofty, Llanrhidian a Llanmadog.

Cofiwch fod y rhan fwyaf o'r daith gerdded hon wrth ochr aber ac er bod llawer o ddechrau'r daith gerdded ar hyd arwynebau palmantog, efallai y bydd rhai o'r darnau diwethaf yn fwdlyd.

Map

Lawrlwythwch map taith cerdded Pen Clawdd i Llanmadog (JPEG, 2.87MB)