Caldicot i Cas-gwent
Pontydd anferth a phentrefi bychain gyda chyfoeth...
O gwmpas Penygogarth o Frenhines Trefi Glan Môr Cymru i un o’r cestyll canoloesol gorau yn y byd
Promenâd Llandudno i Gonwy, er y gellir rhannu’r daith yn ddwy ran drwy gychwyn neu orffen ar Draeth Gorllewinol Llandudno.
4 milltir / 7 kilometr (drwy gychwyn ar y Traeth Gorllewinol)
5 milltir / 7 kilometr (drwy orffen ar Draeth Gogleddol Llandudno wrth heibio Garddi Haulfre neu
8 milltir / 14 kilometr i wneud y daith gyfan.
Byddwn yn cychwyn ar bromenâd eang, godidog Llandudno sy’n rhoi cychwyn dymunol iawn i'r daith hon, sydd hyd yn oed heddiw yn atgof o awyrgylch Fictoraidd ei tharddiad.
Ewch heibio i Bîr Llandudno a adeiladwyd ym 1877, ar y dechrau byddai stemars olwyn yn dod â theithwyr yma o Lerpwl, ac yn y ganrif ddiwethaf byddai teithiau dydd yn mynd i Ynys Manaw o’r fan hon. Heddiw mae’n daith gerdded ddymunol i gael awyr y môr, ac mae ffair fechan, a stondinau a chaffe a bar yn y pen pellaf.
Nawr awn o gwmpas Penygogarth, ond byddwch yn ofalus gan fod y ffordd hefyd yn cael ei defnyddio gan yrwyr sy’n talu toll bychan i yrru ar hyd y ffordd ddramatig hon ar ymyl y clogwyn.
Ar chwith mae’r fynedfa i'r Fach parc o Oes Victoria lle mae camera obscura, theatr awyr agored, cwrs golff pitw alpaidd , ac i’r rhai mwy anturus mae’r lifft caban hiraf yn y DG, llethr sgïo sych, tiwbiau a chwrs tobogan. Mae’r daith i’r gopa yn serth, ond yn bosibl i’r mwyafrif o bobl ffit ac iach.
Mae ein taith yn parhau ar hyd Marine Drive. Ar ôl mynd heibio’r tollborth, cofiwch edrych yn ôl i gael llun cerdyn post o’r pîr, cylch hanner crwn Bae Llandudno a Phenygogarth yn y pellter yn ffrâm i’r llun.
Ewch ymlaen ar hyd Marine Drive ar hyd y clogwyni o’ch blaen, gan ddringo’n raddol a’r rhan fwyaf serth ger Lighthouse bed and breakfast wedi’i adeiladu ar ben clogwyn 300 troedfedd o uchder. Yn fuan wedyn, mae caffe Rest and Be Thankful yn gyfle i adennill ychydig o’ch egni.
Mae’r golygfeydd o rannau uchaf y daith yn edrych ar hyd arfordir gogledd Cymru tuag at Eryri, Môn ac Ynys Seiriol yn wirioneddol ryfeddol.
Erbyn hyn mae’n siŵr y byddwch wedi dod ar draws rhai o’r geifr sy’n byw ar Benygogarth. Roeddent wedi’u rhoi yn y lle cyntaf i’r Arglwydd Mostyn gan y Frenhines Victoria, a daethant yn enwog ar draws y byd pan ddaethant i ymweld â strydoedd gwag Llandudno yn ystod y cyfnod clo Covid 19.
O’r fan hon rydych yn tuag i lawr a gweld golygfeydd arbennig o boptu. Edrychwch i lawr i weld olion ysgol filwrol o’r ail ryfel byd, ac ymhellach ymlaen cewch weld sut mae’r bobl grand yn byw yn Llys Helyg moethus- wedi’i enwi ar ôl chwedl Llys Helyg teyrnas y dywedir ei bod wedi boddi gerllaw.
Ar ôl cyrraedd traeth Penmorfa eang Llandudno gallwn droi i’r chwith yn ôl tuag at Landudno, naill ai ar hyd y palmant neu ar hyd “llwybr yr anabl”. O’r hen dollty ar Draeth y Gorllewin mae hyn yn cychwyn ar lethr serth drwy Erddi Haulfre gyda golygfeydd panoramaidd o Landudno tuag at Gonwy.
Ond rydyn ni’n parhau ar hyd yr arfordir ac i fyny aber afon Conwy i Ddegannwy. Mae’r marina fodern yn cuddio hanes y pentref, a bu ymladd am dros fil o flynyddoedd dros Gastell Degannwy ar y bryn uwchlaw. Bydd gwyriad byr yn mynd â ni at safle’r castell.
Erbyn hyn bydd tyrau Castell Conwy, un o’r rhai mwyaf godidog yn Ewrop, wedi dod i'r golwg.
A byddwch yn rhyfeddu ato. Mae’r gaer enwog hon wedi cadw’n arbennig o dda ac mae’n un o’r cestyll mawr eraill yng Nghymru sy’n Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Yma mae set o’r ystafelloedd canoloesol mwyaf cyflawn yng Nghymru. Mae’r muriau uchel a’r wyth tŵr yn codi mor urddasol â phan godwyd y castell dros 700 mlynedd yn ôl.
I gyrraedd y castell byddwn yn croesi’r cob heibio i bont grog Thomas Telford.
Ac fel y castell, mae muriau tref Conwy ymhlith y rhai gorau a mwyaf cyflawn yn Ewrop. Maen nhw’n ymestyn bron yn ddi-dor o gwmpas calon tref Conwy am dri chwarter milltir, gyda 21 o dyrau a thri phorth gwreiddiol ar eu hyd. Gallwn gerdded ar hyd y mur wrth iddo ddolennu o gwmpas strydoedd cul Conwy.
Mae tref furiog fechan Conwy yn em wirioneddol, gallwch dreulio diwrnod neu fwy yn crwydro ar hyd ei lonydd cul, yn archwilio’i siopau, ei bariau, ei chaffes a’i thai bwyta. Mae cei’r dref yn lle gwych i gael cipolwg ar fywyd y môr yma, ewch ar daith ar yr afon a gweld y tŷ lleiaf ym Mhrydain.
Prin ganllath i fyny’r ffordd o’r cei mae Tŷ Aberconwy o’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Yn wyrthiol, llwyddodd y tŷ masnachwr hwn i oroesi drwy hanes cythryblus y dref furiog bron am bron chwe chanrif.
Yng Nghonwy hefyd mae’r tŷ trefol gorau ym Mhrydain o gyfnod Elizabeth, Plas Mawr. Cafodd ei greu yn ystod oes euraidd pan fyddai masnachwyr cyfoethog yn buddsoddi mewn plastai moethus. Aeth Robert Wynn, mab i fasnachwr lleol, i wasanaethu gyda diplomyddion y Tuduriaid gan deithio i’r mwyafrif o lysoedd mwyaf gwych Ewrop. Ar ôl gwneud ei ffortiwn, prynodd y tŷ hwn a’i droi’n ddathliad o’i fywyd, ei oes a’i *gyfoeth.
Meddai Gruff Owen, swyddog Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer arfordir y Gogledd: “Mae hon y daith bendant o ddau hanner. Mae’r hanner cyntaf yn cadw at y ffordd gul ar ymyl y clogwyn o gwmpas creigiau calchfaen Penygogarth gan roi arfordirol gwych am filltiroedd o gwmpas. Mae’r ail ran yn hollol wastad, yn ymyl traeth gwych, i fyny ar hyd aber afon Conwy a gorffen yn nhref ganoloesol unigryw Conwy.”
Mae nifer o barciau ceir ac ar y stryd yng nghanol tref Llandudno, Traeth y Gorllewin a Chonwy. Mae gwasanaethau bws rheolaidd rhwng canol tref Llandudno a Chonwy.
Gall parcio ar ddiwedd y llwybr a chael bws neu drên i’r man cychwyn arbed amser ichi yn aros am fws ar ôl gorffen y daith. Cofiwch y bydd y mwyafrif o wasanaethau trên yn golygu newid yng Nghyffordd Llandudno. Neu fel arall gallwch brynu tocyn ar gyfer taith bws Llandudno neidio i mewn, neidio allan.
Mae digon o doiledau cyhoeddus yn Llandudno a hefyd yng nghaffi Rest and Be Thankful, Traeth Gorllewinol Llandudno, Degannwy a Chonwy.
Mae bwyd a diod ar werth mewn nifer o fannau ar hyd y llwybr hwn.
Lawrlwythwch map taith cerdded Llandudno i Conwy (JPEG, 2.82MB)