Caldicot i Cas-gwent
Pontydd anferth a phentrefi bychain gyda chyfoeth...
Mae mwy i Dalacharn na Dylan Thomas
Maes Parcio islaw'r castell yn Nhalacharn
4 milltir / 7 kilometers - cylchtaith cerdded
1 milltir / 1.35 km - Dylan’s Birthday Walk
Hyd yn oed os nad yw Dylan Thomas o ddiddordeb i chi, mae digon i'w weld a'i wneud ym mhentref arfordirol bach hyfryd Talacharn.
Ac mae'r daith gerdded hon yn cynnwys golygfeydd gwych o'r aber, darnau hardd o goetiroedd a chefn gwlad, castell canoloesol gwych, ac wrth gwrs, digonedd o Dylan.
Cychwynnwch drwy groesi'r bompren o'r maes parcio a dilyn y llwybr o amgylch castell Talacharn, gan fwynhau golygfeydd gwych ar draws moryd Taf a Bae Caerfyrddin i Benrhyn Gŵyr, y tu hwnt.
O fewn ychydig gannoedd o lathenni cyrhaeddwn hen sied ysgrifennu a Chwt Cwch Dylan lle bu'n byw am bedair blynedd olaf ei fywyd a lle cynhyrchodd rywfaint o'i waith gorau – a dylanwad y dref, y dirwedd a’i chymeriadau’n amlwg iawn ar lawer ohono.
O'r fan hon, mae'r llwybr yn mynd drwy goetir hyfryd gyda choed ffawydd a sycamorwydd anferthol yn drwch o fwsogl ac eiddew.
Yna awn drwy’r caeau ac i fyny trac gweddol serth rhwng y coed am ryw hanner milltir. Ar y brig, mae Llwybr Arfordir Cymru yn troi i'r dde am "Brixtarw", ond awn i'r chwith yma ac yna i'r dde, cyn y trac i Delacourse Uchaf, ac yn ôl i lawr lôn wledig dawel, amgaeedig am ryw hanner milltir arall tuag at Dalacharn.
Yn fuan, rydym yn cyrraedd Coed Sant Martin ar y chwith ac Eglwys Sant Martin restredig Gradd II ar y dde.
Rhaid mai hon yw un o'r mynwentydd mwyaf atmosfferig yng Nghymru gyda cherrig beddau ar ogwydd wedi tyfu’n wyllt yn cysgodi o dan goed Yw hynafol anferth.
Awn drwy giât mochyn ac o amgylch yr eglwys, yna trwy giât arall i'r fynwent fwy newydd. Yma y claddwyd Dylan a'i wraig Caitlin – mae'r bedd yn hawdd ei adnabod, a chroes wen syml arno.
Ar ôl dangos ein parch, anelwn am y giât bren ym mhen draw’r fynwent, a throi i'r dde ar hyd llwybr yn ôl i Dalacharn.
Dyma'r pentref a ddisgrifiwyd gan Dylan fel: “…a black-magical bedlam by the sea… timeless, beautiful, barmy..… there is nowhere like it anywhere at all.” Gwadodd hefyd mai Talacharn a'i phobl oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer Under Milk Wood, er nad yw'r bobl yma fel petaent yn poeni fawr am hynny, pe bai'n wir.
Mae gan y pentref ei hun ddigonedd o lefydd i fwyta, yfed ac ymlacio. Y mwyaf adnabyddus yw Gwesty Brown’s – ffefryn lleol Dylan.
Ac ychydig i lawr y ffordd o Brown's mae Castell Talacharn. Wedi'i sefydlu ym 1116, roedd yn rhan o gadwyn Normanaidd o gestyll o Gas-gwent i Benfro ond nid oedd byth yn ddiogel rhag ymosodiad y Cymry ac fe'i cipiwyd lawer o weithiau.
Wedi'i achub rhag adfeilio bron gan y gŵr llys Elisabethaidd, Syr John Perrot, trowyd y castell adfeiliedig o'r drydedd ganrif ar ddeg yn breswylfa addas i ŵr bonheddig. Ond byrhoedlog oedd ei ddadeni, ac fe'i cipiwyd am y tro olaf a'i ddatgymalu'n rhannol ar ôl gwarchae gan rymoedd Seneddol yn y Rhyfel Cartref.
Awn yn ôl nawr i'r glannau, heibio i'r rhestredig a'r Groes ar y Grist, sef Adeilad Rhestredig Gradd II yn Nhalacharn
Gallem orffen ein taith gerdded yma, ond parhawn ar hyd y blaendraeth ac ar hyd y "llwybr newydd" fel y'i gelwir, a adeiladwyd ym 1856 i helpu casglwyr cocos i gyrraedd y corsydd yn y pen arall
Mae'r "llwybr newydd" bellach wedi'i ailenwi'n Daith Gerdded Pen-blwydd Dylan am ei fod wedi ysbrydoli ei gerdd . Wrth i ni ddringo'n raddol drwy'r goedwig, mae meinciau achlysurol yn cynnig cyfleoedd i eistedd a mwynhau’r golygfeydd, a hysbysfyrddau’n rhoi cipolwg ar hanes a bywyd gwyllt yr ardal.
Yn y man lle mae'r llwybr yn dechrau mynd i lawr allt, trown o gwmpas, gan fwynhau golygfeydd gwych allan i'r foryd ac yn ôl tuag at Gastell Talacharn.
Meddai Nigel Nicholas, swyddog Llwybr Arfordir Cymru: "Mae'r daith gerdded hon yn cynnwys llawer mewn pellter byr. Yn amlwg, mae yno lawer o Dylan, ond mae rhannau dymunol drwy goetir gwych, ger yr aber ac ar hyd lonydd gwledig. Ac wrth gwrs, dyna Gastell Talacharn yn sefyll wrth aber afon Taf."
Mae dewis o leoedd i fwyta, yfed a chael byrbryd yn Nhalacharn, i gyd o fewn tafliad carreg i faes parcio'r pentref. Mae toiledau cyhoeddus yn y pentref hefyd.
Lawrlwythwch map taith cerdded cylchtaith Talacharn (JPEG, 2.79MB)