Cestyll, Capeli ac Eglwysi
Mae Cymru’n enwog am gestyll rif y gwlith, ond...
Mae olion ein gorffennol wedi eu gwasgaru ar hyd Llwybr Arfordir Cymru sy’n 870 milltir o hyd. O dreftadaeth ddiwydiannol i eglwysi canoloesol a safleoedd yr Oes Efydd a’r Oes Haearn, mae arfordir Cymru yn frith o leoedd godidog ac unigryw
O gyrion Caer yn y gogledd i Gas-gwent yn y de ddwyrain, darllenwch am y lleoedd arbennig hyn a dysgwch sut y bu iddynt gyfrannu at hanes diwydiannol Cymru drwy’r oesoedd. Mae deall gorffennol diwydiannol Cymru yn hollbwysig i ddeall y Gymru sydd ohoni heddiw. Mae llawer o olion ein gorffennol yno o hyd, ond yn aml mae’r ffordd y cânt eu defnyddio’n wahanol.
Roedd aber afon Dyfrdwy hyd at Gaer yn ddyfrffordd hollbwysig ar un adeg.
Yn y canoloesoedd, roedd Caer yn borthladd pwysicach na Lerpwl, a phacedlongau i Iwerddon yn gadael Parkgate ar ochr Cilgwri o’r aber ers talwm. Ond gyda’r aber yn llawn silt a gwaddodion, a Lerpwl yn mynd o nerth i nerth, pylodd pwysigrwydd afon Dyfrdwy o’r ddeunawfed ganrif ymlaen. Er hynny, roedd llongau’n dal i gael eu hadeiladu yn Saltney a Chei Connah ymhell i’r ugeinfed ganrif, ac mae Mostyn yn borthladd prysur hyd heddiw.
Os byddwch chi’n dilyn Llwybr Arfordir Cymru ar lannau’r aber heddiw, fodd bynnag, fe sylwch chi ar long anghyffredin sydd wedi adfywio’r fasnach forwrol ar ran uchaf aber afon Dyfrdwy ac sy’n gysylltiedig ag un o ddiwydiannol uwchdecholeg ein gwlad.
Cafodd yr ysgraff Afon Dyfrdwy ei hadeiladu’n unswydd er mwyn cludo adenydd anferthol yr ‘Airbus’ A380 sy’n cael eu cynhyrchu ym Mrychdyn, ar gam cynta’r daith i Toulouse, lle mae’r awyrennau’n cael eu rhoi at ei gilydd.
Gyda’r adenydd yn pwyso dros 30 tunnell ac yn mesur tua 45 metr ar draws, ystyriwyd ei bod hi’n anymarferol eu cludo ar ffyrdd, felly caffaelwyd yr ysgraff isel yn 2005 i gludo pob adain i lawr i Fostyn. Yna, cânt eu dadlwytho a’u trosglwyddo i fferi ymuno ac ymadael (roll-on-roll-off) dyfnforol er mwyn eu cludo ymlaen i Ffrainc.
Rhaid cynllunio pob cam o’r daith fer rhwng Brychdyn a Mostyn yn fanwl gywir, gan ystyried y llanw, amodau’r tywydd a thraellethau’r aber sy’n symud yn dragywydd. Os yw’r llanw’n rhy isel, gall yr Afon Dyfrdwy fynd yn sownd; os yw’r llanw’n rhy uchel, ni allai fynd o dan bont Queensferry. Fodd bynnag, mae’n rhyfeddol fod traffig masnachol wedi bod ar yr aber ers y dyddiau cynnar, a bod traffig tebyg - er yn hynod arbenigol bellach - yn dal i hwylio hyd heddiw.
Yn ogystal â’r dreftadaeth ddiwydiannol, mae aber afon Dyfrdwy yn enwog am ei adar ac mae’n Wlypdir o Bwysigrwydd Rhyngwladol. Mae’n llawn bwrlwm dros y gaeaf, ac yn gynefin i tua 120,000 o adar dŵr ac adar hirgoes ar hyd y glannau.
Gallwch weld adar cyffredin fel hwyaid, gwyddau ac elyrch rif y gwlith ar hyd rhan o’r Llwybr Arfordir yma. Mae hebog yr ieir, aderyn prin ar y naw, yn hela’i brae ar hyd aber afon Dyfrdwy nawr ac yn y man, a’r dylluan glustiog ymhlith y corsydd gyda’r hwyr.
Ger Llwybr Arfordir Cymru ym Moelfre, mae cerflun o ddyn cydnerth mewn cot oel a het law yn cydio’n dynn mewn olwyn lywio llong – teyrnged i gymeriad rhyfeddol o’r enw Richard Evans o Foelfre, un o swyddogion bad achub dewr niferus Cymru.
Mae’r RNLI wedi bod yn achub pobl ac yn diogelu’r glannau ers dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae gwroldeb a dewrder y criwiau hyn yn chwedlonol, ac mae’r rhai sy’n gweithio o orsafoedd bad achub Cymru wedi profi mwy na’u gwerth sawl tro wrth ymateb i alwadau heriol ers agor yr orsaf gyntaf yn Ninbych-y-pysgod ym 1822.
Mae gan Ynys Môn le anrhydeddus yn yr hanes hwn. Cafodd yr ‘Anglesey Association for the Preservation of Life from Shipwreck’ ei sefydlu gan Frances Williams a’i gŵr, y Parchedig James Williams, ficer Llanfair-yng-Nghornwy, ar ôl iddi weld trychineb pacedlong Alert, o Parkgate i Howth, ger Ynysoedd y Moelrhoniaid ym 1823. Aethant ati i sefydlu gorsaf yng Nghemlyn ym 1828, a bu’r Parchedig Williams yn aelod gwirfoddol rheolaidd o’r criw.
Yn unol ag arferion gorau ei bentref genedigol, gadawodd Richard Evans o Foelfre yr ysgol yn 16 oed ac ymuno â llong lannau ym 1921 cyn dychwelyd adre’n ddiweddarach fel aelod o’r criw bad achub lleol. Cafodd ei benodi’n lywiwr ym 1954, ac fe’i gofir yn bennaf am ei ddewrder yn achub criwiau dwy long a aeth i drybini ger arfordir Môn - llong lannau Hindlea o Gaerdydd ym1959 a’r bad modur Nafsiporos o Wlad Groeg ym 1966.
Yn y naill achos a’r llall, llywiodd ei fad achub i fyny at y llongau mewn trafferth, annog y criwiau i neidio ar fwrdd y bad a dychwelyd dro ar ôl tro hyd nes yr oedd pawb yn ddiogel ar dir sych. Cafodd fedalau aur yr RNLI am ei wrhydri.
Ar ôl ymddeol ym 1967, daeth yn llysgennad blaenllaw i’r gwasanaeth; a chyda gwyleidd-dra arferol, honnai nad oedd peryglon y môr yn ddim o gymharu ag arswyd siarad cyhoeddus!
Mae’r moroedd ger Moelfre yn ddigon tymhestlog o hyd ar brydiau, ond mae’r Llwybr Arfordir yn gyfle perffaith i gael cipolwg agosach ar bentref pysgota bach traddodiadol. Mae’r rhan hon o ogledd-ddwyrain Môn yn enwog am ei thraethau a’i bywyd gwyllt, ac fe welwch chi forloi llwyd a’u rhai bach ar hyd a lled yr arfordir yn aml.
Mae olion gorffennol diwydiannol Porthmadog i’w gweld o hyd, yn y gyrchfan boblogaidd hon i ymwelwyr. Roedd yr harbwr bychan, sydd bellach yn gartref i gychod hamdden, yn borthladd masnachol ffyniannus wrth galon yr economi llechi lleol. Heddiw, mae trenau cwmni Ffestiniog & Welsh Highland Railways yn dilyn trywydd yr union lwybrau cludo llechi a oedd yn hollbwysig i fodolaeth y dref, ac yn cludo ymwelwyr i fyny i’r chwareli erbyn heddiw.
Mae crwydro’r rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru tuag at odre deheuol Eryri yn ffordd hamddenol braf o fwynhau’r fro. Mae’r golygfeydd ysblennydd o’r Cob tuag at y mynyddoedd gystal â’r goreuon welwch chi ar hyd y llwybr cyfan.
Go brin fod unrhyw borthladd arall yng Nghymru wedi’i effeithio cynddrwg â Phorthmadog gan y Rhyfel Byd Cyntaf. Allforio llechi i ogledd yr Almaen oedd asgwrn cefn economi’r ardal byth ers i ddinas Hamburg gael ei dinistrio gan dân mawr 1842. Gwnaed defnydd helaeth o lechi ar gyfer toeau newydd y ddinas, a daeth yn boblogaidd ymhlith penseiri ac adeiladwyr ar hyd a lled gogledd a chanol Ewrop wedyn. Ffynnodd Porthmadog yn economaidd yn sgil y fasnach hon, yn enwedig o gofio bod cymaint o’r llongau hwylio pren a gludai’r llechi i bedwar ban wedi’u hadeiladu’n lleol hefyd.
Buan y datblygodd cysylltiadau diwylliannol a chymdeithasol dyfnach o’r fasnach hon. Cafodd rhai o longau Porthmadog a hwyliai’n rheolaidd i Hamburg a phorthladdoedd eraill yr Almaen eu henwi’n Fanny Breslauer neu Frau Minna Petersen ar ôl gwragedd y masnachwyr llechi Almaenaidd a oedd yn mewnforio’r deunyddiau o Gymru.
Ac wrth i forwyr ifanc Porthmadog ddychwelyd adref am seibiant o’r môr, doedd dim yn fwy ffasiynol, nac yn sicrach o ddenu sylw’r merched ifanc, na phâr o blucher sgleiniog, sef esgid gareiog hyd at y ffer a enwyd ar ôl cadfridog o Brwsia a gynorthwyodd Wellington ym mrwydr Waterloo. Roedd llawer o lanciau ifanc o’r Almaen yn gwasanaethu ar longau Porthmadog hefyd, a daeth llawer ohonynt yn siaradwyr Cymraeg rhugl maes o law.
Ym 1895, cafodd tua 24,000 o dunelli o lechi eu hallforio o Borthmadog i ogledd yr Almaen yn bennaf. Daeth y cyfan i ben yn ddisymwth ym mis Awst 1914, ergyd greulon i Borthmadog fel porthladd masnachol a’r lle olaf yng Nghymru i adeiladu llongau hwylio pren. Diwedd oes aur a chyfnod rhyfeddol o ran hanes economaidd, cymdeithasol a diwylliannol rhyngwladol.
Mae rhai o olygfeydd mwyaf godidog Llwybr Arfordir Cymru i’w cael o bont Abermaw, pont drenau a cherddwyr sy’n ymestyn bron i hanner milltir ar draws aber afon Mawddach ar arfordir Meirionnydd.
Er nad yw’r bont ei hun o bosib yn ddeniadol tu hwnt, cewch olygfeydd heb eu hail o Gader Idris a’r copaon cyfagos ar ddiwrnod clir braf.
Adeiladwyd y bont, a wnaed yn gyfan gwbl o bren fwy neu lai, ym 1867 gan gwmni Aberystwyth & Welsh Coast Railway neu’r Cambrian Railways yn ddiweddarach. Roedd y rhan ogleddol yn cynnwys pont godi er mwyn caniatáu i longau hwylio i fyny’r afon i borthladd Penmaen-pŵl, cyn cael ei disodli gan y bont siglen bresennol ym 1901.
Y bont siglen oedd seren ffilm ‘The Ghost Train’ ym 1937, pan ddefnyddiwyd effeithiau arbennig i greu’r argraff bod y trên wedi plymio o’r bont i’r dyfroedd islaw!
Ym 1980, wedi canrif a mwy o wasanaeth, darganfuwyd bod y rhannau o’r bont a oedd dan dŵr wedi gwanhau cynddrwg gan derydr môr nes bod y pyst sylfaen yn debyg i gaws Emmental! Cafodd gwasanaethau eu hatal ar unwaith; ac roedd dyfodol y lein yn y fantol prin ddegawd ar ôl i ymgyrchwyr lwyddo i’w hachub ar gyfer y dyfodol.
Yn ffodus, penderfynwyd y dylid ei thrwsio. Mae’r bont ar waith hyd heddiw, ac yn rhoi cyfle i gerddwyr a theithwyr trên fwynhau rhai o olygfeydd mwyaf cofiadwy Cymru gyfan.
Mae rhan Sir Benfro o Lwybr Arfordir Cymru yn enwog am ei heddwch a’i harddwch naturiol eithriadol, ond nid felly’r oedd hi ers talwm.
Ystyriwyd dyfrffordd Aberdaugleddau yn harbwr naturiol gwych, hawdd ei amddiffyn, erioed, ac felly nid yw’n syndod i’r Morlys benderfynu agor iard longau yma ym 1802.
Sefydlwyd yr iard wreiddiol ger Aberdaugleddau ei hun, cyn symud ar draws yr aber ym 1814 i gymuned amaethyddol o’r enw Patechurch a ailfedyddiwyd yn Noc Penfro yn ddiweddarach.
Cafodd y llongau cyntaf eu lansio ym 1816, a dyna gychwyn bri adeiladu llongau a fyddai’n para am ychydig dros ganrif. Ymhlith y llongau pwysicaf i’w hadeiladu yno yr oedd HMS Tartarus, yr agerlong gyntaf ym 1834 a’r HMS Lion ym 1847, llong fwya’r llynges ar y pryd.
Daeth tro ar fyd yn y 1860au, fodd bynnag, pan ddechreuodd y Llynges Frenhinol ddatblygu llongau rhyfel haearn. Roedd Doc Penfro dan anfantais fawr, ac yn rhy bell o ganolfannau diwydiannol y DU, yn enwedig yr ardaloedd adeiladu llongau. Parhawyd i adeiladu llongau cyfansawdd (cyrff pren ar fframiau haearn) yno am sawl blwyddyn arall, ond erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif, roedd yr iard ymhell ar ei hôl hi ac yn methu adeiladu llongau rhyfel dur mawr ‘Dreadnought’ yr oes.
Caeodd yr iard ym 1926, gan ddod â thlodi a chaledi mawr yn ei sgil, ond ym 1930, sefydlodd yr Awyrlu ganolfan awyrennau môr yn y dref a fu’n rhan hollbwysig o ymgyrchoedd amddiffyn confoi yr Ail Ryfel Byd maes o law, gydag awyrennau môr Sutherland. Caeodd y ganolfan hon ym 1957, a defnyddiwyd yr iard at sawl diben wedyn gan gynnwys ar gyfer adeiladu llongau masnach. Agorwyd terfynfa fferi yno ym 1979, ac mae’n dal ar waith heddiw dan law cwmni Irish Ferries. Ond mae oes aur Doc Penfro fel un o iardiau llongau pwysica’r Llynges Frenhinol wedi hen ddiflannu.
Heddiw, gall ymwelwyr grwydro Llwybr yr Arfordir trwy Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro heibio rhai o olygfeydd mwyaf godidog gwledydd Prydain, gan gynnwys 58 o draethau, 14 harbwr a dinas leiaf y DU - Tyddewi.
Wrth gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru yn y Barri heddiw, mae’n anodd credu mai hwn oedd porthladd prysura’r wlad ar un adeg.
Cymuned fechan o ychydig gannoedd oedd y Barri ym 1870, ond prin ddeng mlynedd ar hugain o flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd yn dref fyrlymus ag oddeutu 40,000 o bobl. Hwn oedd porthladd allforio glo mwyaf blaenllaw’r byd hefyd, clod a neilltuir i dref gyfagos Caerdydd fel arfer.
Pam y fath newid byd felly?
Gweledigaeth a gorchestion un dyn sy’n bennaf gyfrifol am drawsnewidiad rhyfeddol y Barri - David Davies o Landinam (1818-90). Ar ôl ennill ei blwyf fel ffermwr tenant a llifiwr yn y Canolbarth, aeth ymlaen i godi sawl pont ffordd yn y Canolbarth cyn mentro i fyd rheilffyrdd yn y 1850au. Adeiladodd gledrau ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys hafn heriol Talerddig sy’n rhan o lein Amwythig-Aberystwyth heddiw.
Gyda’i orwelion ar gyfleoedd masnachol newydd o hyd, cafodd brydlesau glo ym mhen uchaf Cwm Rhondda a suddodd bwll yn y Maerdy ym 1864 – y cyntaf o blith nifer a ddaeth yn rhan o gwmni Ocean Coal Co. Ltd maes o law.
Roedd dau gwmni’n tra arglwyddiaethu ar gludiant glo o’r Rhondda ar y pryd – trenau Taff Vale Railway a dociau Bute, Caerdydd. Ond wrth i’r cynnyrch a’r traffig glo gynyddu, daethant yn fwyfwy aneffeithiol, ac erbyn y 1870au, roedd Davies yn bennaeth ar griw o gydberchnogion glo a chwiliai am system reilffordd a dociau newydd rhywle ar hyd arfordir y De.
Penderfynwyd canolbwyntio ar ardal y Barri, a bu cryn frwydro yn erbyn buddiannau Bute yn San Steffan cyn sicrhau deddf ganiatáu ym 1884. Agorodd y doc ym 1889, a chyn hir, roedd ar y blaen i Gaerdydd o ran allforio glo. Yn anterth y fasnach lo ym 1913, roedd Caerdydd yn allforio 10.5 miliwn o dunelli a’r Barri’n allforio fymryn dros 11 miliwn o dunelli.
Erbyn heddiw, mae holl lofeydd cwmni Ocean wedi hen gau yn ogystal â’r rhan fwyaf o system reilffordd y Barri, a phrin yw’r defnydd o ddociau’r Barri. Ond ar gyrion dociau’r Barri ac ar ymyl yr A470 yn Llandinam, saif cerfluniau o David Davies yn dalog o hyd, yn deyrngedau addas i un o wŷr mwyaf rhyfeddol Cymru Oes Fictoria.
Mae traeth garegog Cnap yn y Barri yn lle braf i fynd am dro a chael picnic fel teulu, ac mae gwaith monitro’n profi bod ansawdd dŵr y môr yn ddigon uchel i chi ymdrochi ynddo bellach.
Yng nghornel bellaf Llwybr Arfordir Cymru yn y De-ddwyrain, ar lannau’r afon Gwy, roedd iard longau Cas-gwent – y fwyaf o’i bath yng Nghymru ar un adeg, a’r mwyaf byrhoedlog hefyd o bosibl.
Roedd Cas-gwent, fel sawl lleoliad arfordirol yng Nghymru, yn byrlymu gyda gwaith adeiladu llongau hwylio pren o’r ddeunawfed ganrif ymlaen. Ond gogledd-ddwyrain Lloegr a glannau afon Clyde oedd canolbwynt diwydiant adeiladu llongau dur a haearn o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fodd bynnag, er bod ambell iard longau diwydiannol mewn llefydd eraill hefyd.
Un o’r rheiny oedd iard longau Finch a sefydlwyd yng Nghas-gwent ddiwedd y 1870au gan Edward Finch; a oedd hefyd yn adeiladwr pontydd o fri. Cafodd llawer o longau cargo bach, badau tynnu, carthlongau a rhodlongau eu cynhyrchu yn yr iard fach hon ar hyd y blynyddoedd, cyn i bethau newid yn sydyn adeg y Rhyfel Mawr wrth i longau tanfor yr Almaen ymosod ar fasnach y môr.
Ym 1916, daeth yr iard i feddiant y llywodraeth, prynwyd tiroedd cyfagos, a symudodd y farchnad wartheg i gartref newydd er mwyn neilltuo lle i saith llithrfa ar lannau afon Gwy.
Roedd y cynlluniau gwreiddiol yn cynnwys agor ierdydd pellach yn Beachley a Portbury a fyddai wedi creu cyfanswm o 34 o lithrfeydd, ond dim ond hanner y gwaith a gwblhawyd.
Oherwydd oedi hirfaith i gynllunio’r iard a chodi tai newydd i’r gweithwyr, bu’n rhaid aros tan fis Medi 1918 cyn lansio’r llong gyntaf o’r iard, er i’r diwydiant adeiladu llongau barhau tan 1921. Byrhoedlog fu hanes y cwmni dilynol, Monmouth Shipbuilding Co Ltd hefyd, ac erbyn heddiw, stadau tai newydd sydd yn yr hen iard.
Ond elfen unigryw’r iard, yw mai llongau rhannol barod, neu prefab, oedd yn cael eu hadeiladu yno. Roedd hon yn dechneg newydd ar y pryd, er mai dyma’r dull safonol a ddefnyddir mewn iardiau llongau modern erbyn heddiw. Roedd Cas-gwent yn torri tir newydd felly!
Yn ogystal â’r cyfoeth hanesyddol – Cas-gwent yw un o drefi hynaf Cymru a chartref castell cerrig hynaf y DU – mae’r rhan hon o’r llwybr yn cynnwys sawl tirnod modern hefyd.
Yn Blackrock, cewch olygfeydd panoramig braf o’r ddwy bont Hafren a’r aber ei hun.
Ewch tua’r gorllewin, ac fe ddowch i Warchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd sydd â thros fil o erwau naturiol sy’n hafan i adar ac sy’n cynnwys llwybrau cerdded a gweithgareddau i bawb o bob oed.