O'r Cledrau i'r Llwybrau
Mwynhewch daith ar drên a gweld y llwybr drwy...
Cerddwch 100 milltir rhwng Pwllheli ac Aberystwyth gan ddefnyddio’r trên
Trafnidiaeth Cymru
Mae’r rhan o’r llwybr sy’n mynd drwy arfordir Eryri a Llŷn yn cael ei gwasanaethu’n dda gan Lein y Cambrian, sy’n cael ei gweithredu gan Trafnidiaeth Cymru
Gan ddefnyddio Lein Arfordir y Cambrian, gallwch gerdded am 100 milltir rhwng Pwllheli ac Aberystwyth. Gallwch hefyd gyrraedd llwybr yr arfordir ar Brif Lein y Cambrian, sy’n rhedeg rhwng Aberystwyth a’r Amwythig.
Darllenwch fwy am Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
Darllenwch fwy am y rhwydwaith rheilffyrdd ar y llwybr
Cynlluniwch eich taith trên gyda Traveline Cymru
Dyma restr o’r gorsafoedd trên yn nhrefn y gorsafoedd o Bwllheli i Aberystwyth. Mae’n dangos y pellteroedd rhwng y mannau ar Lwybr Arfordir Cymru sydd agosaf at y gorsafoedd ar Lein y Cambrian.
Maent wedi’u talgrynnu i’r filltir neu’r cilometr agosaf.
1. Pwllheli i Abererch, 2 filltir neu 3 cilometr
2. Aberech i Benychain, 2 filltir neu 2 gilometr
3. Penychain i Gricieth, 7 milltir neu 12 cilometr
4. Cricieth i Borthmadog, 7 milltir neu 11 cilometr
5. Porthmadog i Minffordd, 3 milltir neu 5 cilometr
6. Minfordd i Benrhyndeudraeth, 1 filltir neu 1.5 cilometr
7. Penrhyndeudraeth i Landecwyn, 1 filltir neu 1 cilometr
8. Llandecwyn i Dalsarnau, 1 filltir neu 1 cilometr
9. Talsarnau i Dŷ Gwyn, 1 filltir neu 2 gilometr
10. Tŷ Gwyn i Harlech, 4 milltir neu 6 cilometr
11. Harlech i Landanwg, 3 milltir neu 5 cilometr
12. Llandanwg i Bensarn, 1 filltir neu 2 gilometr
13. Pensarn i Lanbedr, 1 filltir neu 2 gilometr
14. Llanbedr i Ddyffryn Ardudwy, 5 milltir neu 8 cilometr
15. Dyffryn Ardudwy i Dal-y-bont, 2 filltir neu 3 cilometr
16. Tal-y-bont i Lanaber, 2 filltir neu 4 cilometr
17. Llanaber i’r Bermo, 2 filltir neu 3 cilometr
18. Y Bermo i Forfa Mawddach, 2 filltir neu 3 cilometr
19. Morfa Mawddach i Fairbourne, 2 filltir neu 3 cilometr
20. Fairbourne i Lwyngwril, 6 milltir neu 9 cilometr
21. Llwyngwril i Donfannau, 5 milltir neu 8 cilometr
22. Tonfannau i Dywyn, 3 milltir neu 4 cilometr
23. Tywyn i Aberdyfi, 4 milltir neu 7 cilometr
24. Aberdyfi i Fachynlleth, 12 milltir neu 19 cilometr
25. Machynlleth i Gyffordd Dyfi, 6 milltir neu 10 cilometr
26. Cyffordd Dyfi i’r Borth, 9 milltir neu 14 cilometr
27. Y Borth i Aberystwyth, 6 milltir neu 9 cilometr
Mae’r llwybr yn mynd heibio’n uniongyrchol i’r rhan fwyaf o’r gorsafoedd ac mae o fewn hanner milltir i bob un ohonynt. Mae’r gorsafoedd canlynol tua milltir i ffwrdd:
Safleoedd cais yw’r canlynol ar Lein y Cambrian. Yn y safleoedd hyn, bydd trenau ond yn stopio os bydd cwsmer yn gofyn am gael dod ar neu oddi ar y trên. Darllenwch fwy am sut i ddod ar neu oddi ar y trên mewn safle cais
Rydyn ni’n argymell i chi ddefnyddio’r trên i gyrraedd man cychwyn neu fan gorffen eich taith gerdded. Y ffordd hon, gallwch fwynhau eich taith gerdded heb orfod poeni am ddal y trên olaf adref.