Llanbedrog i Abersoch, Pen Llŷn
Mwynhewch rai o olygfeydd arfordirol gorau pentref...
Taith drefol heddychlon
Gan gychwyn wrth fynedfa Canolfan Mileniwm Cymru, sef canolfan gelfyddydau a theatr drawiadol Caerdydd gyda’i tho euraid, dilynwch Lwybr Arfordir Cymru o flaen Neuadd y Sir a cherddwch ar hyd ymyl y doc. Mae’r llongau a arferai angori yma pan oedd cyfnod diwydiannol Caerdydd ar ei anterth wedi hen fynd, ac yn eu lle ceir cwtieir, elyrch a gwyachod mawr copog yn nythu (yn ystod yr haf, cadwch lygad am weision y neidr a mursennod lliwgar hefyd).
Oddeutu hanner y ffordd i lawr y doc, trowch i’r chwith i archwilio rhwydwaith o gamlesi llai â phontydd yn eu croesi. Dyma le tawel braf i ddianc rhag miri a mwstwr y ddinas. Pan fyddwch yn barod i barhau â’ch taith, croeswch Ffordd Schooner i gerdded yn ôl at Ganolfan y Mileniwm ar ochr arall y doc, gan ailymuno â Llwybr Arfordir Cymru o flaen Neuadd y Sir.