Taith Gylchol y Parlwr Du, Sir Fflint
Gall plant ddod wyneb yn wyneb â natur ar y daith...
Dyma daith gerdded sy'n addas ar gyfer cadeiriau gwthio ac sydd â chyfleusterau defnyddiol i'r teulu
Canolfan Ymwelwyr Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd
Aiff y daith gerdded gylchol hon â chi drwy dirwedd ddiddorol o gorsdir, pyllau ac arfordir sy’n llawn dop o fywyd gwyllt. Wrth i chi grwydro, efallai y gwelwch chi hebogiaid tramor yn nythu yn y peilonau sydd ar hyd yr arfordir, adar y bwn yn taranu yn y cyrs a gwyachod bach yn plymio am bysgod. Yn ddibynnol ar y tymor, efallai y gwelwch chi hefyd degeirianau lliwgar a chaldrist y gors ar hyd ymylon y llwybr a gellesg y gerddi ar lannau’r pyllau.
Wrth i chi gyrraedd yr arfordir, cewch weld golygfeydd eang o Benarth a Chaerdydd, ynysoedd Rhonech ac Echni a Clevedon a Gwlad yr Haf ar ochr arall yr aber. Byddwch chi hefyd yn pasio Goleudy Dwyrain Wysg, sy’n dal i gael ei ddefnyddio heddiw er ei fod wedi ei orchuddio â llwch tanwydd o orsaf bŵer Aberwysg.
Rhwng y goleudy a’r aber mae ardal o forfa heli sy’n fyw gyda phlanhigion morol fel lafant y môr a chlustog Fair. Wrth anelu am y tir mae pont simsan ble efallai y gwelwch chi weision y neidr a mursennod llachar yn hedfan o gwmpas tra bod pysgod rhudd yn nofio o dan y dŵr.
Ar ran olaf y daith yn ôl at y Ganolfan Ymwelwyr cadwch lygad am fodaod y gors yn hedfan uwchben y cyrs, yn ogystal â dyfrgwn gwibiog a llygod y dŵr. Mae gan y warchodfa natur hon raglen gyffrous o ddigwyddiadau i’r teulu yn y ganolfan ymwelwyr.
Tricia Cottnam, Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru:
"Yr uchafbwynt yw’r olygfa dros ehangder yr aber, a’i natur wyllt yn cael ei dwyn i gof gan alwad pell y gylfinir. Peidiwch chwaith â cholli profiad sy’n digwydd pan fo’r haul yn machlud yn yr hydref. Mae degau o filoedd o ddrudwy’n cydamseru mewn siapiau anhygoel wrth iddyn nhw symud fel un ar draws awyr glir y nos".
Mae siop, caffi, maes parcio a thoiledau yng Nghanolfan Ymwelwyr Gwlypdiroedd Casnewydd. Gallwch chi gyrraedd yma ar y bws 63 o Gasnewydd hefyd.
Lawrlwythwch taflen cerdded Taith Canolfan Ymwelwyr Gwlypdiroedd Casnewydd (PDF) a map o taith cerdded (JPEG)