Taith Gylchol y Parlwr Du, Sir Fflint
Gall plant ddod wyneb yn wyneb â natur ar y daith...
Mae'r llwybr di-draffig hwn yn berffaith ar gyfer mynd am dro bach ar droed neu ar gefn eich beic
Casllwchwr i Ben-bre
12 milltir neu 20 km
Mae’r rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru yn dilyn rhan hawdd a gwastad o arfordir Sir Gaerfyrddin a gall y teulu oll ei mwynhau ar droed neu ar feic. Wrth i chi deithio, byddwch chi’n pasio amrywiaeth enfawr o bethau i’w gweld a’u gwneud, gan gynnwys Gwarchodfa Gwlypdiroedd sy’n gartref i haid o fflamingos pinc, traethau euraidd enfawr, porthladdoedd hardd a pharc gwledig sydd â llethr sgïo sych.
Tricia Cottnam, Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru:
"Dyma ran wych o Lwybr Arfordir Cymru ble allwch chi feicio neu fwynhau’r golygfeydd ar droed ar lwybr arfordirol hygyrch, di-draffig sy’n dilyn arfordir prydferth Sir Gaerfyrddin. Dyma’r lle delfrydol i ddod â’r teulu er mwyn darganfod y rhan hon o Gymru"
Lawrlwythwch taflen cerdded Llwybr Arfordir y Mileniwm (PDF) a map taith cerdded (JPEG)