Taith Gylchol y Parlwr Du, Sir Fflint
Gall plant ddod wyneb yn wyneb â natur ar y daith...
Gwnewch eich ffordd ar hyd y llwybr cerfluniau glan môr hwn er mwyn tynnu'r hun-lun perffaith
Maes parcio Bae Limeslade i maes parcio Bae Caswell
3 milltir neu 5 km
Wrth ymuno â’r llwybr yn Limeslade, efallai y cewch gipolwg ar forloi’n torheulo ar y creigiau wrth ymyl y dŵr.
Ychydig ymhellach ar hyd y llwybr cewch weld Cerflun y Pysgodyn sy’n Llamu, rhan o lwybr celf arfordirol gan grŵp o’r enw Sculpture Art and Education by the Sea. Mae’r cerflun wedi ei gerfio o dderw lleol sydd wedi ei adfer, ac mae’n darlunio cylch parhaus o ddŵr â macrell sy’n llamu. Edrychwch drwy’r ffenest yng nghanol y cerflun i weld tirwedd drawiadol yr arfordir, cyn parhau ar eich taith.
Yna mae’r llwybr yn pasio Bae Langland â’i res nodweddiadol o gytiau traeth gwyrdd a gwyn – y lle perffaith i stopio am luniaeth hanner ffordd wrth i chi wylio’r syrffwyr lleol yn reidio’r tonnau.
O Langland mae Llwybr yr Arfordir yn ymdroelli o gwmpas clogwyni creigiog ar ei ffordd i Fae Caswell. Yma mae cerflun arall sy’n dangos pysgod a byrddau syrffio naill ochr i fainc. Mae’r ddwy ran wedi ei cherfio â llaw o dderw wedi ei adfer ac maen nhw wedi eu haddurno â phaneli metal a chastiau o gregyn a ddarganfuwyd ar y traeth.
Tricia Cottnam, Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru:
"Mae hon yn daith gerdded hwyl i’r teulu oll ei mwynhau gyda’i gilydd ac i ddarganfod sut y gall arfordir dramatig Cymru ysbrydoli artistiaid lleol".
Lawrlwythwch taflen cerdded Bae Limeslade i Fae Caswell (PDF) a map taith cerdded (JPEG)
Llun: Cerflun pysgod yn neidio ger yr arfordir gan Art and Education by the Sea