Traeth Pentywyn
Gosodwch eich record cyflymder tir eich hun yn...
Gwelwch y dociau fel yr oeddent yn y profiad realiti estinedig hwn
Bae Caerdydd i Morglawdd Caerdydd
Lawrlwythwch ap Llwybr Arfordir Cymru er mwyn profi’r ardal mewn Realiti Estynedig. Mae’r daith hon yn addas ar gyfer pramiau a bygis.
Adeilad Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Morglawdd Caerdydd. Mae lleoliad y panel sydd ar gael ar Google Maps.
Llwybr cerdded: 2 km / 1 milltir
Taith gerdded estynedig: 2km / 1 milltir o Morglawdd Caerdydd i dref Penarth
"Mae’r daith gerdded hawdd hon yn mynd â chi allan ar yr Argae. Byddwch yn gweld cychod amrywiol yn gadael neu’n cyrraedd y Bae trwy’r llifddorau. Mae’r golygfeydd gwych o’r Argae yn ymestyn allan at ynysoedd Echni a Rhonech".
Yn dechrau o flaen adeilad eiconig Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Llwybr Arfordir Cymru yn troelli ar hyd lan y dŵr ar ei ffordd tuag at y môr. Byddwch yn mynd heibio i’r Eglwys Norwyaidd wen lle bedyddiwyd yr awdur Roald Dahl a gafodd ei eni yng Nghaerdydd. Gall ymwelwyr iau fwrw eu hegni yn y lle chwarae, y parc sglefrio a’r gampfa awyr agored ar hyd y ffordd.
Ger mainc enwog crocodeil Roald Dahl edrychwch am banel Llwybr Arfordir Cymru i brofi Realiti Estynedig gan ddefnyddio’ch dyfais symudol (ffôn clyfar neu dabled). Gallwch ddarganfod sut oedd bywyd yn yr 1920au ym Mae Caerdydd, un o’r systemau dociau mwyaf yn y byd ar y pryd.
Yn ymestyn mwy nag 1 km ar draws ceg Bae Caerdydd, mae gan yr Argae olygfeydd gwych dros Fôr Hafren ac yn ôl ar draws y ddinas.
Wedi cyrraedd pen draw'r Argae, gallwch ddychwelyd ar yr un llwybr neu fynd ymlaen tuag at ganol tref Penarth, y pier Fictorianaidd prydferth a’r traeth cerigos am hufen iâ haeddiannol. Gallwch ddychwelyd ar droed neu ar gludiant cyhoeddus.
Mae’r daith gerdded hon yn mynd trwy ddociau hanesyddol Caerdydd lle mae pethau difyr ar gyfer ymwelwyr iau fel Techniquest (Canolfan gwyddoniaeth a darganfod Cymru) a lleoedd chwarae yn yr awyr agored.
Ewch i'n tudalen Cynllunio'ch ymweliad sydd â gwybodaeth ddefnyddiol ar drafnidiaeth gyhoeddus a map rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad.