Sir Fflint
Archwiliwch fan sy’n gyforiog o fywyd gwyllt ac yn llawn olion gorffennol diwydiannol yr ardal
Mwynhewch y golygfeydd eang o Aber Afon Dyfrdwy, mae’n Ardal Cadwraeth Arbennig ac yn lle gwych i wylio’r adar sy’n byw yn y lle arbennig hwn. Rhan wastad o’r llwybr y mae’r rhan fwyaf ohoni wedi’i tharmacio, mae digon o gyfleoedd i ddysgu am wreiddiau diwydiannol a threftadaeth yr ardal.
Dysgwch am dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal ar y daith gerdded fer hon gyda golygfeydd gwych ar draws Aber Afon Dyfrdwyy
Taith gerdded fer a hawdd lle gallwch archwilio Castell y Fflint a chrwydro ar hyd glannau coediog
Taith gerdded wastad a hawdd o Dalacre sy’n arwain o amgylch y Parlwr Du ac yn edrych dros warchodfa natur sy'n boblogaidd gyda gwylwyr adar
Llwybr cylchol gwych o Dalacre, ar draeth tywodlyd ysblennydd gyda'r opsiwn o daith gerdded fyrrach y tu ôl i'r twyni tywod