Prestatyn a Gronant
Llwybr cylchol ardderchog sy’n agos at Lwybr Clawdd Offa.
Taith gerdded wastad a hawdd sy’n cysylltu tref hanesyddol Rhuddlan a’r arfordir
Paddy Dillon
Mae tref hanesyddol Rhuddlan yn adnabyddus am ei chastell nodedig ar lan yr afon a safle'r hen senedd-dy. Mae modd dilyn Afon Clwyd ar y naill lan ar hyd Llwybr Arfordir Cymru i Fae Cinmel, a dychwelyd wedyn ar y llall i Ruddlan. Mae'r daith gyfan yn wastad ac yn hawdd.
Pellter: 7.3 milltir or 11.8km
Man cychwyn: Stryd Fawr, Rhuddlan
Cyfeirnod grid: SJ 02424 78199
Pa 3 Gair: darlithoedd.undebau.sychlyd
Parcio
Parcio oddi ar Coetiau Postol (Vicarage Lane) neu ger Castell Rhuddlan.
Bws
Mae gwasanaethau bysiau dyddiol yn cysylltu Rhuddlan â'r Rhyl a Phrestatyn.
Trên
Mae gwasanaethau trên dyddiol Arfordir y Gogledd yn cysylltu'r Rhyl â gorsafoedd arfordirol rhwng Caer a Chaergybi.
Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Mae’r darn o fap OS 1:25,000 yn dangos y llwybr sy’n cychwyn a gorffen yn Rhuddlan, gyda dewis o lwybr o gwmpas y Rhyl. Gellir cynnwys neu hepgor coetir cymunedol Glan Morfa.
Darperir dau lwybr GPX: Mae 'Rhuddlan Kinmel 1' yn cynnwys y ddolen o amgylch coetir cymunedol Glan Morfa tra bod llwybrau byr 'Rhuddlan Kinmel 2' yn osgoi'r coetir gan arbed 1km o waith cerdded.
1. Dechreuwch yng nghanol Rhuddlan, lle mae cylchfan fechan ar y Stryd Fawr. Cerddwch i’r gyffordd â Stryd y Senedd gerllaw, lle mae wal tŷ yn cynnwys ychydig o weddillion adeilad lle pasiwyd Statud Rhuddlan, a arweiniodd at ganiatáu sefydlu cyfraith Loegr yng Nghymru. Cerddwch ymhellach i lawr y Stryd Fawr, sy'n troi'n Ffordd yr Orsaf, er i'r hen orsaf reilffordd gau ym 1955. Trowch i'r dde ychydig cyn cyrraedd pont Afon Clwyd, lle mae cerflun y tri marchog.
2. Dilynwch ffordd Tan-yr-Eglwys, sy'n mynd o dan Eglwys y Santes Fair, a pharhau'n gyfochrog â'r afon. Ewch i fyny llwybr tarmac ar y chwith, sef llwybr beiciau Lôn Clwyd. Mae'n rhedeg ar frig yr arglawdd ger yr afon, ac o dan ffordd brysur A525. Mae golygfeydd o ben yr arglawdd yn cynnwys ffermdir cyfagos, Bryniau Clwyd ac ysblander pell Eryri. Ewch ymlaen drwy’r gatiau achlysurol, a darllenwch yr arwydd sy’n egluro'r amddiffynfeydd rhag llifogydd a welir ar lan yr afon.
3. Mae'n hawdd cerdded y llwybr sy’n wastad a chlir, ond yn y pen draw mae'n gwyro o lan yr afon ac yn cyrraedd cyffordd gydag arwyddion ger parc carafanau. Cadwch i'r chwith i gyfeiriad Glan Morfa gan ddilyn y llwybr nes cyrraedd cyffordd drionglog. Mae gennych chi ddau ddewis yma. Un ai parhau i gerdded yn eich blaen nes bydd y llwybr yn ymuno â ffordd, sydd yn ei thro yn arwain at bont droed rheilffordd. Mae hyn yn arbed 1km o waith cerdded. Yr opsiwn arall yw troi i'r chwith i fynd am dro trwy goetir cymunedol Glan Morfa, lle mae sawl llwybr ar gael fel y gwelir ar fap bwrdd.
4. Mae'r llwybr o gwmpas Glan Morfa yn dychwelyd at lannau llanw Afon Clwyd ac yn cyrraedd cyffordd drionglog arall. Cadwch i'r chwith i barhau ar hyd glan yr afon ac anelu at bont reilffordd. Mae'r llwybr yn troi i'r dde ac yn rhedeg yn gyfochrog â'r rheilffordd, gan adael Glan Morfa. Trowch i'r chwith i groesi pont droed dros y rheilffordd, gan ddefnyddio'r groesfan uchel i weld y Marine Lake a thref glan môr y Rhyl.
5. Cerddwch ar hyd y ffordd a phasio ychydig o dai, yna cymerwch yr ail dro ar y chwith sy’n arwain at y Marine Lake. Byddwch yn croesi trac trên bach ar y ffordd i'r llyn. Trowch i'r dde i gerdded ar hyd llwybr y draethlin, gan basio adeilad y môr-gadetiaid a gorsaf ganolog trên bach y Rhyl. Sefydlwyd y rheilffordd ym 1911 ac mae'n gwneud taith gyflawn o gwmpas y Marine Lake. Mae hysbysfwrdd yn rhoi cyfle i ymwelwyr astudio'r olygfa a sylwi ar nodweddion y pedair sir - Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy a Gwynedd. Dilynwch lwybr y draethlin nes bod arwydd llwybr beicio yn pwyntio i'r dde, gan groesi'r rheilffordd fach. Croeswch y ffordd brysur wrth yr ynys draffig, sef Harbwr y Rhyl ar yr arwydd, ac ewch ar hyd Quay Street ac yna y tu ôl i archfarchnad Aldi i gyrraedd cyffordd brysur West Parade.
6. Ewch trwy fwlch cyfagos yn y rheiliau glas ar ochr y ffordd i gyrraedd Pont y Ddraig. Agorwyd y bont droed hon yn 2013 i alluogi i Lwybr Arfordir Cymru groesi dros Harbwr y Rhyl, gan osgoi gorfod defnyddio’r bont brysur, sef Pont Foryd gerllaw. Ar ôl croesi'r bont, mae'r Harbour Hub Café ar gael i'r chwith, ond mae ein llwybr ni'n troi i'r dde a gellir dringo ar hyd rhodfa bren i ardal uchel o dwyni tywod. (Mae hysbysfwrdd yn cynnig nodiadau am Lwybr Tref y Rhyl, i'r rhai sydd am grwydro'r dref). Mae'r twyni tywod yn cael eu diogelu fel gwarchodfa natur fach Trwyn Horton ac mae'r rhodfa yn arwain at blatfform gwylio. Wrth syllu allan i'r môr, gallwch weld tyrbinau troellog Gwynt y Môr, ynghyd ag arfordir y Gogledd o'r Rhyl hyd at Ben y Gogarth. Wrth edrych tua'r tir, gellir gweld Bryniau Clwyd a mynyddoedd Eryri.
7. Ewch ymlaen ar hyd y rhodfa a dod at lwybr tarmac eang, yna dilyn morglawdd heibio i barc cartrefi symudol Sunnyvale, Bae Cinmel. Mae modd dilyn Llwybr Arfordir Cymru yr holl ffordd i Abergele, Bae Colwyn neu Landudno, ond mae ein llwybr ni'n troi i'r chwith i'r mewndir, gan ddilyn llwybr treuliedig â ffensys tal ar bob ochr. Ar ôl mynd heibio'r parc carafanau a’r cartrefi symudol, ewch trwy’r gât mochyn dal a chyrraedd Ffordd Southlands. Dilynwch y lôn i dafarn Mayquay. Trowch i'r chwith ar hyd heol brysur Ffordd y Foryd, yna, croeswch y ffordd bron yn syth wrth ynys draffig a chyrraedd tafarn yr Harbour ar y pen arall.
8. Dilynwch ‘Old Foryd Rd’ nes ei bod yn troi i'r dde, yna daliwch ati ar hyd Alexander's Way a Clwyd Bank, trwy ystad o dai. Ewch heibio caeau ac iard sgrap cyn dilyn y ffordd o dan bont rheilffordd. Yna, trowch i'r chwith i fyny trac a chroesi'r gamfa dros giât i gyrraedd arglawdd glaswelltog ger Afon Clwyd. Cerddwch ar frig yr arglawdd, gan weld Rhuddlan a'i chastell yn y pellter. Mae llwybr yr arglawdd yn mynd heibio gorsaf bwmpio ac yn croesi llifddor Afon Gele yn ddiweddarach. Mae'r llwybr yn parhau, ychydig yn is na'r arglawdd, gan basio ail orsaf bwmpio. Ewch trwy’r giât yn ymyl y parc o gartrefi symudol a dilyn y ffordd heibio’r meysydd carafanau, gan fynd o dan ffordd brysur yr A525. Cadwch lygad am hysbysfwrdd sy'n cyflwyno gwybodaeth am lwybr tref Rhuddlan.
9. Trowch i'r chwith wrth y gyffordd â ffordd brysur Station Road ger caffi Starbucks. Mae'r palmant yn arwain at bont droed wrth ymyl Pont hynafol a chul Rhuddlan. Arferai pontydd pren groesi'r afon yma yn y drydedd ganrif ar ddeg, ac mae rhannau o'r bont gerrig bresennol yn dyddio'n ôl i 1595. Gallwch weld Castell Rhuddlan, a godwyd ym 1277, y tu hwnt i'r bont. Mae'n hawdd ymweld â'r castell trwy ddilyn Ffordd y Castell, neu gallwch orffen y daith yn ôl ar y Stryd Fawr.