Dinas Caerdydd a’r Morglawdd
Mae taith gerdded ddinesig yn cysylltu â llwybrau eraill sy’n croesi Morglawdd Bae Caerdydd ac yn cynnig sawl golygfa o’r brifddinas.
Ewch am dro ar hyd y llwybr dymunol hwn sy’n arwain at olygfan uchel gyda cherflun arbennig ar y brig
© Hawlfraint y Goron
Saif Penarth ar bentir sy'n edrych dros Fae Caerdydd. Roedd yn gyrchfan glan môr Fictoraidd boblogaidd a chyfeiriwyd ati fel yr ‘Ardd wrth y Môr’. Roedd ganddi ddoc a rheilffordd a oedd yn ei chysylltu â Chaerdydd a'r Barri. Caewyd hanner y rheilffordd, ond cafodd ei haddasu a'i hailddefnyddio fel llwybr maestrefol dymunol. Mae'n cysylltu'n hawdd â Llwybr Arfordir Cymru, sy'n dilyn clogwyn a phromenâd cyn esgyn yn uchel i'r Cymin.
Pellter: 5.1 milltir neu 8.3 cilomedr
Man cychwyn: Gorsaf Reilffordd Penarth
Cyfeirnod grid y man cychwyn: ST 18436 71413
Disgrifiad what3words y man cychwyn: gweddus.blychau.nofia
Parcio
Parcio yng Ngorsaf Reilffordd Penarth a lleoliadau eraill o amgylch y dref.
Bysiau
Gwasanaethau bws dyddiol yn cysylltu Penarth â Chaerdydd a'r Barri.
Trenau
Gwasanaethau trên dyddiol yn cysylltu Penarth â Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog a sawl gorsaf yng Nghymoedd De Cymru.
Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX 'Penarth'
1. Cychwynnwch yng Ngorsaf Reilffordd Penarth neu ei maes parcio a cherdded i fyny llwybr tarmac lle gwelwch arwydd yn dangos y ffordd i ganol y dref, Pier Penarth a The Esplanade. Trowch i'r dde ar hyd Stanwell Road, sydd â gwasanaethau bws yn cynnig man cychwyn gwahanol. Croeswch bont dros y rheilffordd a throwch i'r dde wrth y goleuadau traffig er mwyn mynd heibio'r Railway Hotel. Dilynwch y ffordd heibio i Lety Ysgol Westbourne ac yna trowch i'r dde, gan ddilyn llwybr tarmac o'r enw Berkeley Drive. Trowch i'r dde wrth gyffordd llwybr, yna trowch i'r chwith yn fuan wedyn er mwyn dilyn llwybr hen reilffordd a oedd unwaith yn cysylltu Penarth â'r Barri, ond a gaewyd yn y 1960au.
2. Mae’r hen linell wedi'i tharmacio er mwyn ei gwneud yn addas ar gyfer llwybr troed a beicio, ac yn aml mae digon o goed o boptu iddi er mwyn creu'r ymdeimlad o barc llinol trwy faestrefi Penarth. Dilynwch y llwybr o dan bont fwa sy'n rhedeg o dan Archer Road. Mae'r llwybr yn rhedeg yn gyfochrog â Sully Terrace ac yna'n mynd yn fwy coediog ar y ddwy ochr, gan gysgodi'r tai cyfagos. Ewch o dan bont fwa arall o dan Raisdale Road. Parhewch yn eich blaen am ychydig cyn cyrraedd pont fwa arall o dan Forrest Road.
3. Parhewch yn syth yn eich blaen trwy stad o dai, gan ddilyn Rowan Close a throi i'r dde wrth gyffordd er mwyn dilyn Birch Lane i gyrraedd cylch troi. Mae'r hen linell, sydd bellach yn llwybr llydan wedi'i darmacio, yn rhedeg yn syth ymlaen gyda choed a llwyni o bobtu iddo. Ewch o dan un bont fwa arall o dan Brockhill Rise, ac yna fe welwch allt yn codi tuag at ddiwedd stad o dai modern. Pan fydd y llwybr tarmac yn cyrraedd Cosmeston Drive, trowch i'r chwith. (Pe byddech yn troi i'r chwith, byddech yn dod i Barc Gwledig a Phentref Canoloesol Llynnoedd Cosmeston. Ond gwell fyddai ymweld rhyw dro arall gan y byddai'n cymryd amser i'w harchwilio’n iawn.)
4. Cerddwch ar hyd Cosmeston Drive, gan fynd i fyny ac i lawr yr allt yn raddol, yna trowch i'r dde ar hyd Bittern Way. Dilynwch lwybr tarmac rhwng tai 14 ac 18, a cherddwch yn syth yn eich blaen pan gyrhaeddwch y gyffordd er mwyn cyrraedd ardal laswelltog uwchben clogwyn. Trowch i'r chwith er mwyn dilyn Llwybr Arfordir Cymru drwy lain laswelltog, lydan, lle gwelwch fod y tai wedi'u lleoli ymhell oddi wrth ymyl y clogwyn. Ceir golygfeydd o Fôr Hafren, gydag Ynys Echni ar ochr Gymreig y sianel ac ynys gyfagos Steep Holm ar yr ochr Seisnig. Mae Gwlad yr Haf a Bryniau Mendip yn y pellter, ac os edrychwch yn syth yn eich blaen fe welwch Bier Penarth.
5. Fel y gwelwyd wrth gerdded ar hyd llwybr y rheilffordd, mae llwybr yr arfordir hefyd yn rhedeg trwy barc llinol o ryw fath, sy'n troi’n barc go iawn yn ddiweddarach erbyn i chi gyrraedd Cliff Parade, lle dewch o hyd i ddau gaffi. Mae'r llwybr yn rhedeg i lawr yr allt ac yna'n dilyn y palmant ar hyd Cliff Hill er mwyn cyrraedd Gorsaf Bad Achub Penarth. Parhewch i fynd yn syth yn eich blaen ar hyd The Esplanade er mwyn cyrraedd Pier Penarth. Arferai cychod a oedd yn cludo teithwyr o Gaerdydd i Benarth adael eu teithwyr ar lwyfannau glanio symudol cyn yr agorwyd y pier ym 1895, gan ddarparu pont lanio barhaol.
6. Dilynwch y ffordd heibio'r pier a dringwch ran gyntaf Beach Road wrth iddi agosáu at y tir. Arhoswch ar ochr dde y palmant, ac yn union cyn iddo ddod i ben, trowch i'r dde a mynd i fyny 15 o risiau concrit, ac yna llwybr tarmac serth gyda chanllaw yn y canol. Cadwch ar y dde ar y brig er mwyn parhau i gerdded i fyny Kymin Terrace. Trowch i'r dde ar y brig ar hyd Bradford Place, yna trowch i'r dde eto ar hyd Clive Crescent. Dringwch yr allt serth trwy barc bychan Trwyn Penarth er mwyn cyrraedd golygfan sy’n cynnwys cerflun mawr ar ffurf logo Llwybr Arfordir Cymru – sef Cragen y Ddraig. Ceir sawl hysbysfwrdd yma sy'n rhoi sylw i nodweddion o ddiddordeb hanesyddol o amgylch Penarth.
7. Dilynwch Penarth Head Lane at gyffordd a throwch i'r dde, gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru a Morglawdd Bae Caerdydd. (Saif Eglwys Awstin Sant ar dir uchel gerllaw, a hynny ar safle eglwys o’r drydedd ganrif ar ddeg, ac mae’n dirnod a ellir ei weld o Fae Caerdydd.) Arhoswch ar ochr dde y palmant, gan ddilyn y ffordd i lawr St Augustine's Crescent a St Augustine’s Road. Ewch heibio i Ysgol Headlands, a arferai fod yn westy, lle gwelwch fod gwybodaeth am dreftadaeth yr ardal wedi'i gosod yn y ffenestri. Trowch i'r dde i lawr yr allt yn y gyffordd ger Northcliffe Cottage. Yn y gyffordd nesaf, defnyddiwch y palmant ar yr ochr chwith er mwyn dilyn y ffordd i lawr at gylchfan. Fe welwch Custom House ar y dde ac mae Llwybr Arfordir Cymru yn parhau tuag at Forglawdd Bae Caerdydd. Ond mae ein llwybr ni yn troi i’r chwith ar hyd Penarth Portway.
8. Dilynwch yr ymyl o gerrig a'r rheiliau heibio i Farina Penarth. Agorwyd Doc Penarth ym 1865. Fe'i caewyd ym 1963 ac fe'i hailagorwyd fel Marina Penarth ym 1987. Parhewch yn eich blaen ar hyd y ffordd, gan fynd heibio i gaffi The Galley, iard gychod a The Deck, sef bwyty a adeiladwyd uwchben y dŵr. Byddwch yn cyrraedd cylchfan a defnyddiwch y palmant ar yr ochr chwith er mwyn dilyn y ffordd sydd ag arwydd i gyfeiriad Caerdydd. Trowch i'r chwith, gan ddilyn yr arwydd i gyfeiriad ‘Canol y Dref NCN 88’, yna dilynwch lwybr troed a beicio tarmac hynod droellog i fyny'r allt. Byddwch yn cyrraedd cilgant o dai o'r enw St Joseph's Mews. Cerddwch yn syth yn eich blaen, gan ddringo 60 o risiau concrit wedi'u trefnu mewn rhesi o ddwsin o risiau ar y tro.
9. Cadwch i'r ochr chwith o Eglwys Sant Joseff a throwch i'r dde wrth gyffordd drionglog. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd sylw o'r mannau gwyrdd bach yn Nhriongl Arcot, lle ceir nodweddion diddorol iawn a gwybodaeth sy'n werth eu hastudio. Dilynwch Arcot Street i fyny ac i lawr yr allt hamddenol i ganol Penarth, gan fynd heibio i derasau o dai wedi'u hadeiladu o galchfaen. Cerddwch yn syth yn eich blaen ar hyd Hickman Road, cyn cyrraedd goleuadau traffig ymhen hir a hwyr. Trowch i'r dde ar hyd Stanwell Road, yna trowch i'r chwith, gan ddilyn yr arwydd ar hyd llwybr tarmac tuag at Orsaf Penarth.