Pethau i’w gwneud ar Ben Llŷn
Nid cerdded yw’r unig beth y gallwch ei wneud. ...
Dyma rai o'n hoff deithiau cerdded ac argymhellion sy'n dangos y gorau o arfordir Cymru
Porthdinllaen - Visit Wales
Gan sefyll ar benrhyn creigiog Porth Dinllaen gallwch edmygu golygfeydd i’r dwyrain a’r gorllewin ar hyd arfordir gogleddol Pen Llŷn. Gall hwn fod yn gyfle da i chi weld morloi’n nofio’n agos at y lan.
O Blas yn Rhiw fe welwch ehangder Porth Neigwl (Hell’s Mouth). Ar drai, gallwch ddilyn y traeth am ryw dair milltir cyn cyrraedd troed Mynydd Cilan.
Taith gerdded rwydd iawn yw hon ar draws aber Afon Mawddach, ac mae’n cynnig golygfeydd ardderchog i fyny’r aber hyd at fynydd mawreddog Cadair Idris. Byddai’r daith yn fwy hamddenol byth drwy ddal y trên yn ôl. (Trên)
Mae’r llwybr hwn yn ymdroelli drwy gildraethau o Borth Ysgaden i Borth Colmon ac ymlaen i gildraeth bychan Porth Widlin. Ceir creaduriaid a phlanhigion prin a diddorol ar y clogwyni uwchben y traeth.
O Aberdesach, dilynwch y llwybr ar hyd godre mynyddoedd Gyrn Goch a Gyrn Ddu, lle gwelwch dystiolaeth o bwysigrwydd y chwareli ithfaen i’r ardal ers talwm.
Mae’r llwybr hwn yn arwain i mewn tua’r tir wrth i chi adael Aberdaron ac yn dychwelyd at y môr wrth Borth Ysgo. Mae Plas yn Rhiw yn dyddio o’r 16eg ganrif ac fe’i gadawyd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1949.
O dref farchnad brysur Pwllheli, dilynwch y traeth i Forfa Abererch ac ymlaen i bentrefan Penychain.
Mae’r llwybr yn mynd heibio pentref Penygroes, sydd gryn bellter o’r môr. Yma, rydych mewn ardal lle bu’r chwareli llechi’n bwysig iawn ers talwm. Mae’r llwybr yn troi tua’r môr ac fe welwch Drwyn Maen Dylan – craig fawr ar y traeth ger Aberdesach.
O drwyn creigiog Porth Dinllaen gallwch edmygu golygfeydd i’r dwyrain a’r gorllewin ar hyd arfordir gogledd Llŷn. Mae’n eithaf posibl y gwelwch forloi ger y traeth wrth i chi ymdroelli ar hyd yr arfordir i gildraeth Porth Ysgaden.
O bentir Penychain, cerddwch ar hyd y traeth cyn troi i mewn i gyfeiriad Llanystumdwy. Yno, yn y coed y tu allan i’r pentref, fe welwch fedd David Lloyd George. Wedyn, byddwch yn dychwelyd i gyfeiriad y môr.
Dechreuwch eich taith yng Nghricieth lle gallwch archwilio’r castell rhyfeddol cyn cerdded i’r de ar hyd yr arfordir ysblennydd i gyfeiriad Porthmadog. Gallwch oedi yn ystod y daith ar draeth enwog a hardd Morfa Bychan. (Trên neu fws)
Wrth gerdded i gyfeiriad Aberdaron fe welwch Ynys Enlli, lle byddai’r pererinion yn tyrru. Yn ôl pob sôn, roedd tri ymweliad ag Enlli’n gyfwerth ag un â Rhufain.
Wrth gerdded i gyfeiriad Aberdaron fe welwch Ynys Enlli, cyrchfan ar un adeg i bererinion. Yn ôl pob sôn, roedd tri ymweliad ag Enlli’n gyfwerth ag un â Rhufain. Fel yr oedd rhaglen y BBC, Coast, yn sôn, gallwch glywed y tywod ym Mhorth Oer yn chwibanu weithiau wrth i chi gerdded drosto!
Mae llwybr yr arfordir yn troi i mewn i’r tir yma ar hyd Afon Dyfi at y man croesi agosaf ym Machynlleth. Mae’r golygfeydd ardderchog o’r mynyddoedd yn dra gwahanol i’r rhai ar yr arfordir. (Trên neu Fws)
Dau draeth godidog yw’r rhain lle gallwch gerdded am filltiroedd, ac mae digon o gyfleoedd ar hyd y daith i brynu bwyd a diod! Gallwch gwtogi’r daith mewn sawl man drwy ddal trên ar reilffordd arfordirol y Cambrian sydd ag amryw o orsafoedd mewn mannau cyfleus. (Trên neu Fws)