Ynys Môn
Cerddwch o amgylch ynys gyfan! Cyfle i ganfod yr anghysbell, golygfeydd dramatig a chyfoeth o hanes
Mae ein taflen am yr ardal hon ar gael yn yr adran adnoddau ar waelod y dudalen. Mae’r daflen yn argymell teithiau cerdded ardderchog y gellir eu darganfod ar hyd y rhan hwn o’r llwybr yn ogystal ag uchafbwyntiau gwych y gellid eu mwynhau ar y ffordd.
Gruff Owen yn disgrifio ei hoff ran o Lwybr Arfordir Cymru.
Nid cerdded yw’r unig beth y gallwch ei wneud. Yn ogystal â’r llu o gyfleoedd i gerdded y soniwn amdanynt yn yr adran Crwydro Llwybr yr Arfordir, mae llawer o bethau eraill i’w gweld a’u gwneud ar hyd y Llwybr.
Cerdded yw un o’r ffyrdd gorau o werthfawrogi arfordir Cymru ac mae dros 800 milltir o lwybrau i’w troedio, weithiau dros glogwyni uchel, dro arall ar hyd traethau godidog. Dyma rai o’n ffefrynnau ni, a’n hargymhellion ar sut i weld y gorau o’r arfordir.
Mae’n hawdd cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru drwy ddefnyddio cludiant cyhoeddus ac mae modd cyrraedd sawl rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.