Pethau i’w gwneud - Bae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr
Nid cerdded yw’r unig beth y gallwch ei wneud....
Dyma rai o'n hoff deithiau cerdded ac argymhellion sy'n dangos y gorau o arfordir Cymru
Cefn Sidan Sir Gâr Phil Fitzsimmons
Mae’r rhan hon o’r llwybr yn dilyn gwaelod y clogwyni tywodfaen coch hynafol ac yn pasio islaw castell Eingl-Normanaidd Llansteffan sy’n edrych i lawr dros afon Tywi. Darganfod mwy am y daith gerdded yma:Ffynnon Sant Antwn i Lansteffan.
Wrth gerdded yma fe gewch olygfeydd anhygoel o’r ddwy ochr i Fae Caerfyrddin a’r tu hwnt. Mae’r llwybr yn dilyn ymylon clogwyni lle mae coed a phrysgwydd yn tyfu. Darganfod mwy am y daith gerdded yma Y Werle i Ffynnon Sant Antwn
Mae’r cei’n lle poblogaidd i wylio adar. Cewch olygfeydd ardderchog o’r dref oddi yno. Mae Camlas Kymer gerllaw yn un o’r rhai cynharaf yng Nghymru. Darganfod mwy am a y daith gerred yma Cei Cydweli (edrychwch am gerdded "Camlais a Chei" ar y map)
Llwybr sy’n cynnig golygfeydd ardderchog o Fae Caerfyrddin a’r môr y tu hwnt. Mae’n croesi brigau’r clogwyni sydd dan garped o goed a phrysgwydd. Mae llawer o adar môr yn treulio’r gaeaf yn y bae ei hun, sy’n ei wneud yn safle pwysig ac yn sail i’w ddynodi fel yr Ardal Gwarchodaeth Arbennig gyntaf yn y Deyrnas Unedig.
Oedwch yn Nhalacharn i archwilio’r pentref cyn dringo bryn serth Sant Ioan i weld golygfeydd da o’r ardal. Byddwch yn dod at gastell Talacharn a’r tŷ cychod enwog lle y cafodd Dylan Thomas, y bardd enwog, ei ysbrydoli.
Mae’r arfordir ar hyd glan ogleddol aber Afon Llwchwr wedi cael ei drawsnewid yn gasgliad unigryw o atyniadau i dwristiaid, cynefinoedd i fywyd gwyllt a chyfleusterau hamdden. Parc Arfordirol y Mileniwm yw’r enw ar yr ardal, ac mae’r llwybr yn addas hefyd i feicwyr a phobl mewn cadeiriau olwyn. (Trên a Bws)
Cyfle i ddod i adnabod dau o faeau harddaf Penrhyn Gŵyr. Darganfod mwy am a daith gerred yma o Fae Langland i Fae Caswell.
Dyma un o’r teithiau Mynd i Gerdded ar y Bws a geir yn yr ardal. Ewch ar y bws i Lanmadog a mwynhau harddwch gogledd Penrhyn Gŵyr. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Twyni Whiteford ac eglwys ganoloesol Llanmadog. Mae’n lle da i bobl sy’n gwylio adar a bywyd gwyllt a gellir mwynhau’r golygfeydd dros aber afon Llwchwr. Darganfod mwy am a daith gerdded yma ‘Mynd i Gerdded ar y Bws’ i Lanmadog.
Tro pert ym mhen gorllewinol Penrhyn Gŵyr. Cafodd ei ddewis gan y Cerddwyr fel un o’r deg uchaf o’r llwybrau cerdded arfordirol yn y Deyrnas Unedig. Darganfod mwy am a daith gerdded yma Rhosili i Fae Mewslade.
Cewch fwynhau golygfeydd ar draws y bae i Drwyn y Mwmbwls wrth gerdded ar hyd promenâd enwog Bae Abertawe (llwybr rheilffordd gyntaf y byd i deithwyr). Ar ôl cyrraedd y Mwmbwls, prynwch hufen iâ yn wobr i chi’ch hunan. Os bydd gorsaf y bad achub ar agor, mae’n werth mynd i mewn i ddysgu am waith pwysig ac arwrol yr RNLI yn achub bywydau ar y môr yma a thrwy Brydain. Darganfod mwy am a daith gerdded yma ar hyd a Promenâd Bae Abertawe.
Bydd y llwybr yma’n mynd â chi drwy goetiroedd ac ar hyd clogwyni agored. Dau o uchafbwyntiau’r daith yw Castell Oxwich a godwyd yn yr 16eg ganrif ac Eglwys Illtyd Sant o’r 13eg ganrif. Darganfod mwy am a daith gerdded yma Trwyn Oxwich (edrychwch am Llwybrau Arfordir Gŵyr - Trwyn Oxwich")
Mae’r rhan yma o’r Llwybr yn croesi tir dymunol y cefn gwlad i mewn o’r môr, ond mae golygfeydd gwych oddi yno ar draws aberoedd tair afon a Phenrhyn Gŵyr. Y castell canoloesol mawreddog yw’r prif atyniad yng Nghydweli. (Trên a Bws)
Ychydig iawn o bobl sy’n gwybod am y rhan hyfryd yma o’r arfordir. Tirwedd o glogwyni syfrdanol sydd yno, ynghyd â thraethau tebyg iawn i’r rhai yn Sir Benfro. Mae gan Draeth Pentywyn hanes cyffrous o bobl yn ceisio torri’r record cyflymder yno. (Bws)
Tro ar hyd glan aber afon Gwendraeth. Gellir cerdded ar hyd morglawdd Banc y Lord i Goedwig Pen-bre sy’n warchodfa natur a reolir gan y Comisiwn Coedwigaeth. Plannwyd y goedwig ar dwyni tywod. Pinwydd Corsica sy’n tyfu yno’n bennaf ond ceir rhai coed collddail.
I’r de o fferm Trefenty, mae adfeilion hen, hen eglwys. Y gred oedd mai pererinion sy’n gorwedd yn y beddau canoloesol. Mae’n werth gweld y cerrig beddi cerfiedig sy’n darlunio pobl ond mae gwaith ymchwil modern yn awgrymu mai perchnogion tir lleol o’r canoloesoedd ydyn nhw yn hytrach na phererinion.
Mae’r rhan hon yn dilyn Parc Arfordir y Mileniwm ar gyrion Llanelli, tref a dyfodd o ganlyniad i gloddio ac allforio glo, mwyndoddi copr ac, yn enwocaf oll, gwneud tunplat.
Llwybr drwy Goedwig Pen-bre, gwarchodfa natur yng ngofal y Comisiwn Coedwigaeth. Coed pinwydd Corsica yn bennaf sy’n tyfu yn nhywod y twyni, ond mae rhai coed collddail yn tyfu mewn mannau hefyd. Ymlaciwch ym Mharc Gwledig Pen-bre ac ewch am dro i draeth Cefn Sidan. (Trên a Bws)
Tro eithaf hawdd ar hyd traethau tywodlyd agored sy’n cynnig golygfeydd gwych o Fae’r Tri Chlogwyn, lle eithriadol o hardd. Gallwch ddewis sgrialu i fyny rhai o’r creigiau mewn mannau. (Bws)
Wrth archwilio’r ardal, beth am brynu hufen iâ yn y Mwmbwls fel gwobr? Os bydd gorsaf y bad achub ar agor, mae’n werth mynd i mewn i ddysgu am waith pwysig gweithwyr dewr yr RNLI sydd wedi achub bywydau llawer o bobl ar y môr ym mhob rhan o Brydain. Gallwch fwynhau’r golygfeydd ar draws y bae i Drwyn y Mwmbwls wrth gerdded mewn i’r ddinas ar hyd promenâd enwog Abertawe (lle’r oedd y rheilffordd gyntaf yn y byd i gludo teithwyr). (Bws)
Taith egnïol yn un o ardaloedd mwyaf ysblennydd Cymru. O’r llwybr fe welwch glogwyni dramatig, traeth hardd, bryniau tonnog a’r arfordir gwyllt. Mae llu o wahanol adar i’w gweld yma drwy’r flwyddyn. Darganfod mwy am y daith gerdded Llwybr Arfordir Rhosili’r RSPB.
Taith gerdded ar hyd ymyl gorllewinol y penrhyn, cyn mynd heibio i Fae Brychdwn, ynys Burry Holms a Bae Rhosili ar ei hyd. Os bydd y llanw’n caniatáu, gallwch ddewis cerdded ymhellach i drwyn y penrhyn ym Mhen Pyrod. (Bws ar y Sul yn unig).
I weld yr arfordir ar ei orau, mae’r llwybr hwn yn eich tywys ar hyd y clogwyni tal sy’n edrych dros Bort Talbot. Cewch olygfeydd gwych o Fôr Hafren a chyfle ardderchog i weld sut y mae diwydiant wedi ymgartrefu ar lan y môr. Mae olion diddorol i’w gweld ar y ffordd, gan gynnwys adfeilion Eglwys Fair. Darganfod mwy am y daith gerdded o Abaty Margam i Faglan.
Mae’r llwybr yma’n dilyn darn o’r arfordir lle mae cyfoeth o fywyd gwyllt mewn tirwedd amrywiol a thrawiadol. Mae’n mynd drwy dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n anghysbell, garw a gwyllt mewn sawl man. Cafodd Bae Port Einon ei ddewis yn 2011 fel traeth gorau Prydain. (Bws). Darganfod mwy am a y daith gerred yma o Rhossili i Bort Eynon.
Mae’r llwybr yn dilyn tirwedd donnog, yn agos at lefel y môr am y rhan fwyaf o’r ffordd. Mae llethr serth yn Bovehill ac weithiau, ar lanw uchel, mae rhannau o’r llwybr o dan ddŵr. Darganfod mwy am a daith gerdded o Llanrhidian i Cheriton ac yn ôl (edrychwch am "Llwybr Arfordir Gŵyr - Llanrhidian i Cheriton ac yn ôl").