Rhys Jenkins
Yr amser cyflymaf hysbys i redeg y llwybr cyfan
Enw: Rhys Jenkins
Fy ysbrydiolaeth
Roedd rhedeg ar hyd Llwybr Arfordir Cymru wedi bod ar fy rhestr o bethau i’w cyflawni ers i’r llwybr gael ei gysylltu’n llawn yn 2012. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, gwelais fod James Harcombe wedi cwblhau’r llwybr mewn amser anhygoel. Ers y diwrnod hwnnw, bu’n nod gennyf i geisio cwblhau llwybr epig arfordir Cymru yn yr amser cyflymaf erioed.
Dyddyad dechrau: 21 Mis Gorffennaf 2020
Dyddiad gorffen: 10 Mis Awst 2020
Isafbwyntiau
Y cynllun oedd rhedeg cyfartaledd o 44 i 45 milltir y dydd, a byddai hynny yn rhoi siawns go dda i mi fynd am y record. Wrth gwrs, mae’r cynlluniau gorau yn gorfod bod yn hyblyg, ac yn wir ar gwrs y Cylch Tân (The Ring of Fire) ar Ynys Môn, fe’m profwyd i’r eithaf, gyda gwyntoedd cryfion yn fy wyneb a glaw trwm yn fy ngorfodi i redeg llai am ddeuddydd, er mwyn gwarchod y corff a’r meddwl.
Uchaflbwyntiau
Wrth gadael Caer ar 21 Mis Gorffennaf, dyma deimlo bod pob antur rhedeg y bum arni hyd yma wedi f’arwain at y pwynt hwn. Gadael Caer gyda’r bwriad o gwblhau Llwybr Arfordir Cymru yn yr amser cyflymaf erioed.
Ond, yn sicr, bu i’r profiadau cadarnhaol drechu’r negyddol, gydag un o’r llawer o uchafbwyntiau yn dod ar Benrhyn Llŷn. Fe’m syfrdanwyd gan harddwch naturiol godidog yr ardal hon, ac er bod y llwybr yn galed, a’r tywydd fawr gwell, fe’m cynhaliwyd gan gyfuniad o olygfeydd gwych a’r bobl. Roedd cefnogaeth a charedigrwydd pobl Llŷn a’u parodrwydd i helpu dieithryn yn werth y byd. Ym Mhwllheli, cefais yr hwb yr oeddwn ei angen, wrth weld y bobl leol allan ar y strydoedd yn fy annog.
Yn ddyddiol, roeddwn yn dychmygu’r llinell derfyn, cipolwg sydyn ar y dyfodol, heb wybod a oedd y freuddwyd yn bosib, ond yn benderfynol o fynd amdani.
Moment Gofiadwy
Mae’n debyg i mi sylweddoli fod y record o fewn fy nghyrraedd oddeutu 2 filltir o’r llinell derfyn, fy nghyfaill da Steve yn dweud wrthyf am fwynhau’r ennyd – roedd y record yna i mi ei thorri. Wrth i mi groesi’r llinell derfyn daeth ton o emosiwn drosof, a’r cyfan y medrwn i ei wneud oedd dyrnu’r awyr cyn syrthio i goflaid fy ngwraig.
O edrych yn ôl, fyddwn i ddim yn newid eiliad o’r profiad. Antur gorau fy mywyd. A’r amser cyflymaf newydd o 20 niwrnod, 10 awr a 36 munud i gwblhau Llwybr Arfordir Cymru.
Fy ngwraig, fy mam a’m ffrind gorau â’m hysbrydolodd i fynd am y record. Pob un ohonynt yn rhoi rheswm i mi i barhau i frwydro hyd yn oed yn yr oriau tywyllaf. Gyda diolch gwirioneddol i’m gwraig arbennig fu’n edrych ar fy ôl ar hyd y daith!